Myfyrwyr Gwaith Saer i Gystadlu ar Lefel y DU

Mae DAU fyfyriwr o Goleg Ceredigion wedi cymhwyso’n ddiweddar i gystadlu yn rownd derfynol UKSkills, a elwir yn UK Live, a gynhelir ym mis Tachwedd.

Tom Powell

Bydd y gystadleuaeth, a gynhelir yn yr NEC ym Mirmingham, yn cynnwys y myfyriwr lefel 3 gwaith saer Tom Powell, a gyrhaeddodd y brig yn rownd derfynol ranbarthol Cymru a’i gyd-fyfyriwr, Osian Davies, a gymerodd yr ail le yn yr un digwyddiad, wrth iddynt gystadlu am deitl y DU.

Bydd Tom, sy’n gweithio i Rose Castle Joinery, yn gyfarwydd â llwyfan y DU ar ôl hawlio’r wobr arian yn y digwyddiad y llynedd, ond hwn bydd profiad cyntaf Osian, sy’n gweithio i Steve James Joinery.

Meddai’r Rheolwr Cwricwlwm, Huw Thomas: “Rydym yn falch iawn o Tom ac Osian. Buont yn gweithio’n galed iawn yn ystod y gystadleuaeth ac roedd y prosiectau a gwblhawyd yn cynnwys crefftwaith o safon uchel iawn.

“Rydym wrth ein bodd bod y ddau wedi gwneud digon i fod yn gymwys ar gyfer y rownd nesaf a dymunwn y gorau iddyn nhw ym Mirmingham.”

Osian Davies

Deiniol