Amser Te i Fyfyrwyr Arlwyo

Ymwelodd myfyrwyr Arlwyo Coleg Ceredigion yn ddiweddar â Tea Traders, arbenigwr te yng Nghaerfyrddin sy’n cynnwys stoc o dros 100 o wahanol fathau te o bob cwr o’r byd.

Ymwelodd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn fel rhan o’u modiwl Gweini Diodydd.

Yn ystod eu hymweliad, cafodd myfyrwyr daith o gwmpas, gan flasu amrywiaeth eang o de a choffi a dysgu sut i wneud y cwpanaid perffaith o de.

Dywedodd y darlithydd arlwyo, Val Williams: “Roedd hwn yn ymweliad gwych â chyflogwr lleol ac yn dangos y manteision o ddatblygu gwybodaeth arbenigol o fewn y diwydiant er mwyn rhedeg busnes llwyddiannus.”

Accent-adc