Gweithdai Undydd AM DDIM

Chwilio am her newydd? Beth am ymuno â ni yng Ngoleg Ceredigion yn un o’r gweithdai arbennig sy’n cymryd lle dydd Sadwrn 3ydd o Fawrth.

Byddwch yn cael cyfle i roi cynnig ar rywbeth gwahanol fel rhan o weithdai rhyngweithiol yn y meysydd canlynol:

Aberystwyth: Crefft Siwgr, Pobi Cymreig Gwych, Gwneud Print, Ffotograffiaeth Ddigidol, Paentio/Dylunio, Samba a Dylunio Logo.

Aberteifi; Gwneud Bara, Gwneud Ryg gyda Bach Edafu, Bywluniad, Crefft Lledr, Gosod Brics/Creu Wal Gerrig, Cyflwyniad i Durnio Pren, Llathru Ffrengig, a Golygu Fideo Digidol.

Bydd y gweithdai’n cymryd lle dydd Sadwrn 3ydd o Fawrth, gyda’r prisiau’n dechrau o £45. Byddwch hefyd yn gallu prynu bwyd ar y safle yn ystod y dydd.

Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, felly archebwch eich lle nawr rhag ofn y cewch eich siomi trwy ffonio Keith Henson ar 01970 639700 est. 2240 neu ebostiwch hensonk@ceredigion.ac.uk

 

Leave a Reply

You must be logged in to post a comment.