Bwrdd y Llywodraethwyr

Mae Bwrdd Llywodraethwyr Coleg Ceredigion yn cynnwys 15 aelod o wahanol gefndiroedd. Mae rôl a dyletswyddau’r Bwrdd wedi eu nodi yn Rheolau Sefydlog y Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn dirprwyo rhai o’i ddyletswyddau i’r chwech Is-bwyllgor canlynol:

  • Archwilio
  • Cyllid a Phwrpasau Cyffredinol
  • Cwricwlwm a Safonau
  • Ymchwilio
  • Adrodd
  • Arbennig

Mae rôl a dyletswyddau pob Is-bwyllgor wedi eu nodi yng Nghylch Gwaith pob Is-bwyllgor.

Caiff aelodau’r Bwrdd eu hethol ar sail argymhelliad yr Is-bwyllgor Ymchwilio sydd yn ystyried ceisiadau am aelodaeth ar ran unigolion a chyrff enwebu penodedig.

Yn unol ag Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu Sefydliadau Addysg Bellach a fel a nodir yn Rheolau Sefydlog y Bwrdd mae cyfansoddiad aelodaeth y Bwrdd fel a ganlyn:

  • Pump aelod ‘Busnes’;
  • Dau aelod wedi eu cyfethol;
  • Un aelod wedi ei enwebu gan Gyngor Sir Ceredigion;
  • Dan aelod wedi eu henwebu gan gyrff cymunedol;
  • Prifathro’r Coleg;
  • Dan aelod ‘Staff’ wedi eu henwebi a’u hethol gan staff y coleg;
  • Dau aelod ‘Myfyrwyr’ wedi eu henwebi gan Undeb y Myfyrwyr.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf unwaith bob tymor. Mae cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd a’r Is-bwyllgorau ar gael i’w harchwilio gan aelodau o staff wedi iddynt gael eu cadarnhau. Maent hefyd ar gael i’r cyhoedd a gellir eu harchwilio ar Gampws Aberteifi ar unrhyw amser rhesymol trwy wneud cais i Glerc Bwrdd y Llywodraethwyr ac ar Gampws Aberystwyth ar unrhyw amser rhesymol trwy wneud cais i Swyddfa’r Prifathro.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiad yn ymwneud â Bwrdd y Llywodraethwyr i Glerc Bwrdd y Llywodraethwyr ar Gampws Aberteifi.