Cais am le ar gwrs
I wneud cais am le ar gwrs yng Ngholeg Ceredigion ym mis Medi 2012 bydd rhaid i i chi lenwi ffurflen gais.
Mae ffurflen gais ar gael trwy:
- Gysylltu a’r Dderbynfa ar un o’r ddau gampws (01970 639700 neu 01239 612032)
- Anfon e-bost atom enquiries@ceredigion.ac.uk
- Defnyddio’r ffurflen ar y dudalen Cysylltu â Ni
- Lawrlwytho copi trwy’r linc canlynol: Ffurflen Gais 2012-13
Gallwch bostio’r ffurflen atom yn rhad ac am ddim gan ddefnyddio’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen neu ebostio’r ffurflen atom i enquiries@ceredigion.ac.uk Nid oes yn rhaid i chi anfon y ffurflen erbyn unrhyw ddyddiad ond cofiwch bod rhai cyrsiau yn llenwi’n gyflym a’i bod yn well anfon y ffurflen cyn gynted a phosib wedi i chi wneud eich dewis er mwyn cadw lle.
Pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen byddwn yn anfon cerdyn post i ddweud wrthych fod eich ffurflen wedi cyrraedd. Bydd staff y coleg yn cysylltu a chi wedyn i drefnu cyfarfod. Tra’ch bod yn disgwyl i ni gysylltu beth am gadw golwg ar beth sydd ymlaen yn y coleg trwy dudalen facebook y coleg.
English (Saesneg)



