Croeso i Wefan Coleg Ceredigion

Mae Coleg Ceredigion yn goleg bywiog, hwylus a gofalgar sy’n sicrhau bod llwyddiant a lles dysgwyr yn flaenoriaeth. Credwn y gall pob dysgwr lwyddo ac rydym yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod pawb sy’n cofrestru ar gwrs yng Ngholeg Ceredigion yn cyrraedd eu llawn potensial. Rydym yn weithredol iawn wrth hybu cydraddoldeb, ac yn ymwybodol fod pob un o’n dysgwyr yn unigryw. Mae amgylchedd y coleg yn bwysig i ni a rydym yn weithgar iawn wrth wneud popeth y gallwn i amddiffyn ein hamgylchedd.

Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn ganolog i ethos y coleg a rydym yn hybu dwyieithrwydd a dysgu cyfrwng Cymraeg yn barhaol. Mae ein safonau’n uchel, a gwyddwn y bydd hynny’n wir i chithau hefyd wrth i chi ymuno â ni fel un o’r 700 myfyriwr llawn amser neu 2000 myfyriwr rhan amser sy’n astudio yn y coleg bob blwyddyn.

Edrychaf ymlaen i’ch croesawu i Goleg Ceredigion, yr unig goleg addysg bellach yn y Sir.

Jacqui Weatherburn
Pennaeth