Cyngor a Chyfarwyddyd

Rydym am eich profiad fel myfyriwr yng Ngholeg Ceredigion fod yn un llwyddiannus o’r amser y byddwch yn meddwl am ddod i’r coleg hyd nes i chi adael a symud ymlaen at eich gyrfa neu addysg uwch.

Efallai byddwch angen gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth. Cyn i chi ddechrau, bydd staff ar gael i’ch helpu i ddewis cwrs, ymweld â’r coleg ac i egluro neu i drefnu cludiant a chyllid myfyriwr. Unwaith i chi ddewis eich cwrs gallwn eich cynghori neu eich cefnogi trwy’r broses o wneud cais a chael cyfweliad.

Pan yn fyfyriwr, mae’n bosib bydd angen help arnoch gyda’ch dysgu, rhwyun i’ch helpu i ddelio gyda phroblemau personol neu gyngor am beth i’w wneud nesaf.