Cyrsiau ar gyfer Busnes

P’un ai eich bod yn rhedeg busnes sefydledig neu ond megis dechrau, mae cadw gweithlu wedi ei hyfforddi’n dda yn hanfodol. Neu fel arall, efaillai eich bod am ehangu eich sgiliau personol er mwyn gwella eich cyflogadwyedd. Gall yr Adran Gwasanaethau Masnachol, Menter a Hyfforddiant eich helpu i wneud hyn.  

Fel canolfan Sefydliad Prydeinig Cadw Tafarn (BII) gallwn gynnig amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer y fasnach drwyddedig, yn ogystal â chyrsiau statudol megis Cymorth Cyntaf a Iechyd a Diogelwch. Gallwn hefyd gynnig cyrsiau mewn lleoliad ac amser sy’n gyfleus i chi, gan gynnwys: Rheolaeth Amser; Dirprwyo Effeithiol; Rheoli Pobl; Delio â Chleientiaid Anodd.

Rydym hefyd yn cynnig Cymwysterau/Diplomau Galwedigaethol mewn ystod eang o feysydd sy’n cynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Phobl Ifanc, a Thechnegydd Cyfrifeg. Mae posibilrwydd y bydd cymorth ariannol ar gael. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.

Cyrsiau:

 

Os ydych yn ansicr ynglyn a pha gyrsiau sy’n addas ar eich cyfer neu os nad yw’r cwrs rydych chi’n chwilio amdano wedi ei restru mae croeso i chi gysylltu a ni dros y ffon neu trwy e-bost. Gallwn drafod eich anghenion a’ch cynghori ynglyn a’r opsiynau sydd ar gael. Os oes well gennych gallwn drefnu i’n staff ymweld a chi i’ch cynghori ymhellach a hynny yn rhad ac am ddim.

Am fwy o fanylion cysylltwch a Sonia Dobson neu Keith Henson ar 01970 639700 neu e-bostiwch ni: hensonk@ceredigion.ac.uk