Entry Requirements : Derbynnir myfyrwyr ar sail cyfweliad llwyddiannus. Mae’r cwrs ar gael i fyfyrwyr dal 16 mlwydd oed. Cysylltwch â’r Coleg am fwy o fanylion.
Beth fyddai’n ei astudio?
Tystysgrifau Lefel Mynediad CBAC mewn Saesneg a Mathemateg, yn ogystal a chymwysterau Sgiliau Hanfodol. Bydd hefyd dewis o gymwysterau mewn 2 neu fwy o’r meysydd canlynol: Arlwyo; Celf; Technoleg Gwybodaeth; Ffasiwn; Gofal Plant; Adeiladwaith; Peirianneg Cerbydau Modur. Addysg Gyffredinol a TGAU Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig addysg gyffredinol eang a fydd yn eich helpu ym mha bynnag yrfa yr ydych yn ei ddewis. Mae ein cyrsiau Lefel Un fel y Diploma Rhagarweiniol CABTh mewn Astudiaethau Galwedigaethol yn Aberystwyth a’r cwrs Cyn-TGAU yn Aberteifi yn helpu eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o bynciau TGAU.
Bydd sgiliau astudio a chefnogaeth diwtorial llawn ar gael ar eich cyfer er mwyn sicrhau’r amgylchedd ddysgu orau posib.
Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?
Gallwch symud ymlaen i ddilyn cyrsiau TGAU yn y Coleg, neu gymhwyster Lefel 2 mewn maes o’ch dewis.
English (Saesneg)



