Adeiladwaith


Mae’r Diwydiant Adeiladwaith yn un o brif gyflogwyr Cymru, felly nid yw’n syndod bod gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n dda yn hanfodol.
Gallwch ennill y sgiliau angenrheidiol yng Ngholeg Ceredigion trwy astudio Gwaith Brics neu Waith Coed ar Lefel 1 a symud ymlaen tuag at Lefel 3. Mae ein myfyrywr yn cyrraedd safonau uchel yn gyson yn nhermau graddau a thrwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mawr megis SkillBuild ac Urdd Gosodwyr Briciau. Mae gan y Coleg gysylltiadau gwych o fewn y diwydiant, ac yn falch o weithio gyda Sgiliau Adeiladu i gefnogi pobl ar gyrsiau adeiladwaith proffesiynol. Mae cyfleusterau astudio rhagorol yn sicrhau fod y profiad ymarferol a gewch heb ei ail, ac mae’n sicr y bydd yn eich cynorthwyo wrth i chi ddatblygu’ch gyrfa yn y Diwydiant Adeiladwaith.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.