Busnes a Rheolaeth


Mae’r cyrsiau Busnes a gynigir yng Ngholeg Ceredigion yn agor drysau i amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn busnes megis: marchnata, gwerthiant, cyllid, twristiaeth ac entrepreneuriaeth. Pob blwyddyn mae’n myfyrwyr yn cael y cyfle i sefydlu eu busnes eu hunain er mwyn gweithredu’r sgiliau a ddysgwyd yn y dosbarth. Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol fel y Sialens Menter Fyd Eang. Mae cyrsiau’n cynnwys ymweliadau â busnesau a chyrchfannau twristiaeth er enghraifft Sŵ Gaer, Disneyland, Paris a Llundain.
Mae nifer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch ar ôl cwblhau’r cwrs, neu fel arall i swyddi mewn amrywiaeth o yrfaoedd. Mae’r Bagloriaeth Cymru hefyd ar gael ar y lefelau Canolradd ac Uwch fel rhan o raglen astudiaeth busnes. Mae mwy o wybodaeth o dan fanylion y cwrs.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.