Diploma Ategol CABTh Lefel 3 mewn Deall Menter ac Entrepreneuriaeth


Busnes a Rheolaeth

Campws : Aberystwyth
Hyd : Dwy flynedd
Entry Requirements
: Isafswm o 4 TGAU gradd C neu uwch, cymhwyster cywerth neu Diploma CABTh Lefel 2 ar radd Teilyngdod. Derbynnir rhai myfyrwyr heb y cymwysterau hyn yn ddibynnol ar gyfweliad llwyddiannus.

Beth fyddai’n ei astudio?

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i chi baratoi am fenter trwy ddatblygu sgiliau entrepreneuriaeth a chynllun busnes. Mae wedi’i ddylunio i ddysgwyr sy’n dymuno cynllunio menter busnes neu gymdeithasol a datblygu sgiliau mewn menter ac entrepreneuriaeth. Gall unedau gynnwys: Cynllunio a Broliant Busnes; Arweinyddiaeth a Gwaith Tim; Ymchwil a Dadansoddiad y Farchnad; Ymwybyddiaeth Ariannol; E-Farchnata a Dylunio Gwefan.

Gan amlaf bydd y cwrs hwn yn cael ei gyfuno gyda’r Diploma CABTh Lefel 3 mewn Busnes.

Mae’r cymhwyster hwn gywerth â 1 Lefel A.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?

Bydd y cwrs hwn yn paratoi dysgwyr am hunangyflogaeth yn ogystal a galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy o lefel uwch sy’n addas ar gyfer Addysg Uwch.

 

 

 

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.