Diploma CABTh Lefel 3 mewn Busnes a Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru


Busnes a Rheolaeth

Campws : Aberystwyth
Hyd : 2 flynedd
Entry Requirements
: Isafswm o 4 TGAU gradd C neu uwch, cymhwyster cywerth, neu Diploma CABTh Lefel 2 ar radd Teilyngdod. Derbynnir rhai myfyrwyr heb y cymwysterau yn ddibynnol ar gyfweliad llwyddiannus.

Beth fyddai’n ei astudio?

Caiff y Diploma Lefel 3 mewn Busnes ei astudio gyfochr ag unai’r Diploma Ategol mewn Teithio a Thwristiaeth neu’r Diploma Atodol mewn Menter ac Entrepreneuriaeth. Byddwch hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch ynghyd a Sgiliau Hanfodol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau sy’n cynnwys: Cyflwyniad i Farchnata; Cyfathrebiad Busnes; Cyfrifeg; Hybu Cynnyrch Creadigol; Amgylchedd Busnes a Dechrau Busnes Bychan.

Mae’r cwrs gywerth a 3 Lefel A. Caiff yr unedau o fewn y cymhwyster eu hasesu trwy gyflwyno gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol –nid oes arholiadau allanol ar y cwrs hwn.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus? 

Gallwch symud ymlaen i Addysg Uwch neu i yrfa mewn Rheolaeth, Marchnata, Cyllid, Y Sector Cyhoeddus, Twristiaeth neu Entrepreneuriaeth.

 

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.