Diploma Lefel 2 CABTh mewn Busnes, Teithio a Thwristiaeth a Bagloriaeth Canolradd Cymru


Busnes a Rheolaeth

Campws : Aberystwyth
Hyd : Blwyddyn
Entry Requirements
: 4 TGAU graddau D-G neu gymhwyster cywerth, a chyfweliad llwyddiannus.

Beth fyddai’n ei astudio?

Byddwch yn astudio unedau megis: Archwilio Pwrpasau Busnes; Cydberthynas Cwsmeriaid; Rhagolygon Cyllideb ar gyfer Cyllid Busnes a Phersonol; Sector Teithio a Thwristiaeth y DU a’i Ddatblygiad. Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol yn ogystal a Bagloriaeth Cymru ar Lefel Ganolradd. Nid oes arholiadau allanol ar y cwrs –cewch eich asesu trwy waith cwrs ac asesiadau ymarferol.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?

Gall myfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3, neu chwilio am waith mewn amrywiaeth o yrfaoedd busnes neu dwristiaeth.

 

 

 

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.