Celf a Dylunio


Mae’r Adran Gelf, sydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan Celfyddydau Gweledol a Pherfformio ar gampws Aberystwyth, yn cynnig dwy stiwdio gelf sylweddol eu maint ynghyd â dwy ystafell dywyll bwrpasol ac ystafell olygu. Byddwch yn cael eich dysgu gan artistiaid proffesiynol, profiadol sy’n arbenigo mewn Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth.
Trwy dderbyn hyfforddiant yn sgiliau sylfaenol celfyddyd weledol gallwch archwilio eich potensial ac arbenigo mewn maes o’ch dewis. Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch ac i yrfaoedd fel dylunio graffeg a darlunio, ffotograffiaeth, celfyddyd gain, cyhoeddi, ffasiwn a cherflunwaith.
Pob blwyddyn caiff gwaith y myfyrwyr eu harddangos yn yr Arddangosfa Gelf flynyddol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Ar gampws Aberteifi mae cyfle i fyfyrwyr astudio Ffasiwn am ddiwrnod yr wythnos. Mae’r cyrsiau hyn ar gael fel rhan o’n rhaglenni Cyswllt Ysgolion a Cyn-TGAU/TGAU. Rydym hefyd yn cynnig TGAU Celf a Dylunio ar Gampws Aberteifi.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.