Cyfryngau


Fyddech chi’n hoffi gweithio yn niwydiant y Cyfryngau? Efallai y byddech yn hoffi trin camerâu? A fyddech chi’n dymuno ysgrifennu a chyfarwyddo eich ffilmiau eich hunan? Efallai eich bod am fynd i brifysgol i astudio cynhyrchu cyfryngau, astudiaethau ffilm neu gyfathrebu. Er mwyn cyflawni’r goliau hyn, dylech ystyried y cymhwyster Cyfryngau CABTh fel cam cyntaf.
Mae ein rhaglen alwedigaethol yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau cyfarwyddo a ffilmio i olygu a dylunio animeiddiad a dilyniant graffeg. Byddwch yn defnyddio meddalwedd proffesiynol megis Final Cut Pro, y meddalwedd golygu a ddefnyddiwyd ar ”The Social Network”, enillydd Oscar 2011 am olygu, ac Autodesk Maya, y meddalwedd modelu ac animeiddiad 3D a ddefnyddiwyd yn ”Avatar”.
Mae ein staff dysgu yn brofiadol yn y diwydiant ac wedi gweithio o fewn iddo’n broffesiynol. Mae’r tiwtor cwrs tn olygydd darllediad ffilm sydd wedi golygu rhaglenni dogfen ar gyfer y BBC, Sianel 4 ac ITV, ac wedi dysgu golygu ffilm mewn Prifysgol ar lefel Meistr.
Yn ddiweddar, mae’r adran wedi darparu gweithdai proffesiynol mewn animeiddiad 3D a chynhyrchiad stiwdio aml-gamera, ac wedi gweithio’n agos gydag Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru i greu ”Precious Life”; cyfres o ffilmiau a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr. Bu’r ffilmiau’n freintiedig i ennill cefnogaeth BAFTA Cymru, derbyn dangosiadau sinema cyhoeddus a byddant yn cynrychioli Cymru yn yr Olympiad Diwylliannol Rhyngwladol 2012.
Bydd ein myfyrwyr yn aml yn symud ymlaen o’r cyrsiau hyn i brifysgolion dros y DU. Bellach mae rhai wedi sefydlu eu cwmniau cynhyrchu eu hunain, ac eraill wedi dechrau dysgu. Mae pob myfyriwr llwyddiannus wedi gadael Coleg Ceredigion gyda’r sgiliau a’r profiad i ddechrau gyrfa yn niwydiant y cyfryngau.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.