Dodrefn


Coleg Ceredigion yw’r unig Goleg Addysg Bellach yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau mewn Creu ac Atgyweirio Dodrefn ar Lefelau 2 a 3. Mae’r cyfleusterau yn y gweithdai dodrefn gyda’r gorau, gyda gweithdy peirianwaith cyfoes yn ogystal ag odyn solar i sychu pren mewn dull cynaliadwy. Byddwch yn ennill gwybodaeth a phrofiad yn y sesiynau ymarferol yn ogystal ag mewn gweithdai meistr a gynhelir yn flynyddol gan grefftwyr clodfawr yn y diwydiant.
Mae llawer o’r myfyrwyr yn symud ymlaen i gyflogaeth neu hunangyflogaeth wedi cwblhau’r cyrsiau’n llwyddiannus. Gall yr Adran Gwasanaethau Masnachol, Menter a Hyfforddiant gynnig cyngor a chymorth i fyfyrwyr ynglŷn â sefydlu busnes.
Bydd arddangosfa flynyddol yn Aberteifi o gelfi newydd, unigryw a phrosiectau atgyweirio.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.