Estyn Croeso ac Arlwyo
Mae Coleg Ceredigion yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i fyfyrwyr sy’n edrych am yrfa yn y diwydiant Arlwyo ac Estyn Croeso ar ddau gampws y coleg yn Aberystwyth ac Aberteifi. Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth a phrofiad yn y ceginau hyfforddi ar y ddau gampws yn ogystal â dysgu am Iechyd a Diogelwch a deddfwriaeth Diogelwch Bwyd.
Ar Gampws Aberteifi bydd myfyrwyr yn astudio gwasanaeth bwyd a diod fel rhan o’r rhaglen a gallant roi eu sgiliau estyn croeso ar waith ym Mwyty’r Coleg. Mae’r Bwyty ar agor i’r cyhoedd yn ystod y tymor. Os hoffech archebu bwrdd, cysylltwch â’r Dderbynfa ar 01239 612032.
Ar Gampws Aberystwyth, gall myfyrwyr gael profiad gwerthfawr iawn ym Mwyty Blasus, caffi’r Coleg. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ymweliadau diwydiannol i weld ceginau proffesiynol ar waith. Mae llawer o’r myfyrwyr blaenorol wedi llwyddo i gael gwaith yn y diwydiant yn lleol a thros y DU.
English (Saesneg)



