Diploma mewn Coginio Proffesiynol Lefel 1 a 2


Estyn Croeso ac Arlwyo

Campws : Aberystwyth
Hyd : Blwyddyn ar gyfer bob lefel
Entry Requirements
: Lefel 1: 4 TGAU graddau D-G neu gymhwyster cywerth a chael cyfweliad llwyddiannus. Gall myfyrwyr heb y cymwysterau hyn gael eu derbyn ar sail cyfweliad llwyddiannus. Lefel 2: Diploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol neu gymhwyster cywerth, yn ogystal â chyfweliad llwyddiannus. Gall myfyrwyr gyda phrofiad perthnasol yn y diwydiant gael mynediad i’r cwrs yn uniongyrchol heb gymwysterau ffurfiol ar sail cyfweliad llwyddiannus.

Beth fyddai’n ei astudio?

Lefel 1: Mae unedau’n cynnwys diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch, bwydydd iach a dietau arbennig, offer cegin a sgiliau gweithle personol. Mae hefyd yn ymdrin a sut i baratoi a choginio bwyd (gan gynnwys pysgod, cig a llysiau), gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau coginio. 

Lefel 2: Bydd cynnwys y cymhwyster hwn yn sicrhau bod dysgwyr yn adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddatblygwyd yn y Diploma Lefel 1 neu o fewn y gweithle. Mae’r cwrs yn darparu gwybodaeth o weithredoedd cegin a datblygiad sgiliau ymarferol o ansawdd uchel ac mae’n gymhwyster a gaiff ei adnabod trwy’r diwydiant. Mae’r unedau’n cynnwys archwilio’r diwydiant arlwyo ac estyn croeso, diogelwch bwyd mewn arlwyo, bwydydd iachus a dietau arbennig. Caiff myfyrwyr hefyd eu dysgu sut i baratoi a choginio stoc, cawl a sawsiau, ffrwythau a llysiau, cig, dofednod a physgod; o ddefnyddio technegau berwi, potsio, stemio, stiwio, brwysio, pobi, rhostio, grilio a ffrio bas a dwfn. 

Ar lefel 2, caiff pob uned ei hasesu gan gyfuniad o aseiniadau wedi eu gosod yn allanol a phrofion ysgrifenedig byrion. Caiff unedau crefft eu hasesu gan gyfres o asesiadau ymarferol fydd yn cynnwys amrywiaeth o nwyddau gwahanol.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?

Ar ôl cwblhau’r cwrs lefel 1 yn llwyddiannus gallwch chwilio am waith fel cogydd dan hyfforddiant neu symud ymlaen i’r Diploma Lefel 2. Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel 2 yn llwyddiannus gallwch chwilio am waith fel Chef de Partie, neu fel Arlwywr Lles a Diwydiannol.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.