Rhaglen Lefel 3


Estyn Croeso ac Arlwyo

Campws : Aberteifi
Hyd : Blwyddyn
Entry Requirements
: Cymhwyster Lefel 2 mewn Estyn Croeso ac Arlwyo Proffesiynol ynghyd â chyfweliad llwyddiannus.

Beth fyddai’n ei astudio?

Diploma City & Guilds Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sy’n dymuno ehangu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs Lefel 2, neu i’r rhai hynny sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i ehangu ar eu dealltwriaeth ym maes Coginio Proffesiynol. Bydd myfyrwyr yn llwyddo i ennill sgiliau goruchwyliol o safon uchel. Mae’r cwrs yn ymdrin a pharatoi, coginio a sgiliau gorffennu  amrywiaeth o brydau, gan gynnwys pysgod, pasta, sawsiau, bara, toes a chawl.

Diploma City & Guilds Lefel 3 mewn Estyn Croeso Goruchwyliol ac Arweinyddiaeth

Byddwch yn ennill cymhwysedd wrth oruchwylio gwasanaeth bwyd a diod neu weithredoedd cynhyrchu bwyd. Byddwch yn gweithio ym Mwyty Maes y Parc tra’n ennill eich cymhwyster. Caiff ymweliadau a thripiau eu cynnig i gynyddu eich gwerthfawrogiad o fannau arlwyaeth eraill.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?

 Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i ennill cyflogaeth fel Rheolwr Bwyty, Goruchwyliwr Arlwyo, Rheolwr Gwesty, Rheolwr TŷCyhoeddus, Rheolwr Cegin, Chef de Partie, Goruchwyliwr Bwyty neu Berchennog Arlwyo.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.