Gofal ac Addysg Plant
Mae astudio Gofal ac Addysg Plant yng Ngholeg Ceredigion yn cynnig llu o gyfleoedd i’r rhai hynny sy’n gobeithio cael gyrfa yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Byddwch yn astudio theori yn y dosbarth ac yn ymgymryd â lleoliadau gwaith er mwyn datblygu eich sgiliau gofal plant ymarferol. Mae Coleg Ceredigion yn cynnig cyrsiau Lefel 3 a Lefel 3 ar gampws Aberystwyth ac Aberteifi, ac mae cwrs cyfrwng Cymraeg Lefel 3 ar gael yn Aberystwyth/ Bob blwyddyn, mae myfyrwyr Gofal Plant yn trfnu ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau codi arian ar gyfer elusennau lleol a chenedalethol fel rhan o’r cwrs, a thrwy hynny’n ennill llawer o brofiadau gwerthfawr fydd o gymorth iddynt yn eu dewis o yrfa.
Yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Gofal ac Addysg Plant ar lefel gradd mewn Prifysgol, ac mae eraill wedi sicrhau cyflogaeth fel cynorthwywyr dysgu a gofalwyr plant, a hynny’n lleol a thros y byd. Od yr hoffech dderbyn cyngor ar sefydlu eich busnes wich hun, megis bod yn ofalwr plant cofrestredig, gall yr Adran Gwasanaethau Masnachol, Menter a Hyfforddiant fod o gymorth i chi.
Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith strwythurol gyda phlant a/neu oedolion bregus fel rhan o’u cwrs, ymgymryd â gwiriad manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).
English (Saesneg)



