Diploma CACHE Lefel 3 mewn Gofal ac Addysg Plant


Gofal ac Addysg Plant

Campws : Aberystwyth/Aberteifi
Hyd : 2 flynedd
Entry Requirements
: 5 TGAU Gradd C neu uwch (gan gynnwys yn ddelfrydol Cymraeg/Saesneg a Mathemateg), Diploma Cyntaf CABTh (anrhydedd) neu dystysgrif CACHE Lefel 2 neu gymhwyster cywerth. Gall fod yn bosib i fyfyrwyr sydd heb y cymwysterau hyn gael eu derbyn ar sail cyfweliad llwyddiannus a phrofiad perthnasol. Rhaid i chi fod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn pan yn cofrestru ar gyfer y cymhwyster. Bydd pob ymgeisydd yn cael eu cyfweld.

Beth fyddai’n ei astudio?

Mae’r cymhwyster hwn gywerth a 3 Lefel A. Mae gan y theoriau a’r sgiliau ymarferol gyswllt agos iawn a bydd modd i chi ddefnyddio’r sgiliau yr ydych wedi eu dysgu ar eich lleoliad gwaith. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant ac ehangu datblygiad cyffredinol plentyn yn ogystal a dysgu ymwybyddiaeth o ystyriaethau cyfreithiol pan yn gweithio a phlant. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys uned Helpu Plentyn gyda’r Gymraeg, a fydd yn datblygu eich sgiliau llafar Cymraeg eich hunan. Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol, Cymorth Cyntaf, Glendid Bwyd a Iechyd a Diogelwch.

Mae’r cwrs ar gael yn ddwyieithog ar y ddau gampws, gyda chwrs Cyfrwng Cymraeg ar gael ar Gampws Aberystwyth.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?

 Gallwch ymgymryd a gwaith fel Cynorthwy-ydd Dosbarth mewn Ysgol, Nyrs Feithrin yn y Gwasanaeth Iechyd, Gweithiwr Gofal mewn Ysgol Breswyl, Mamaeth (Nani), neu Weithiwr Cynllun Chwarae. Gan fod Diploma yn gyfwerth a 3 Lefel A, gallwch wneud cais am le mewn Prifysgol gan ystyried gyrfa mewn Addysg, Gwaith Ieuenctid neu Waith Cymdeithasol.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.