Diploma Estynedig EDEXCEL CABTh mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gwyddor Iechyd)


Iechyd a Gofal

Campws : Aberystwyth
Hyd : Dwy flynedd
Entry Requirements
: 5 TGAU gradd C neu uwch (yn cynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chymraeg/Saesneg) neu gymhwyster cywerth. Mae’n bosib i fyfyrwyr sydd heb y cymwysterau hyn gael eu derbyn ar sail cyfweliad llwyddiannus a phrofiad perthnasol. Rhaid i bob ymgeisydd gael cyfweliad llwyddiannus.

Beth fyddai’n ei astudio? 

Mae’r cymhwyster hwn yn gywerth a 3 Lefel A. Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau sy’n berthnasol i yrfa fel gweithiwr proffesiynol iechyd megis anatomeg a ffisioleg, datblygiad hyd bwyd a diet a maeth. Bydd lleoliadau gwaith yn ran hollbwysig o’r cwrs a bydd gofyn i chi ymgymryd a 100 awr mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal, er enghraifft y gwasanaeth iechyd a chartrefi nyrsio. Byddwch yn cael eich hasesu trwy aseiniadau ysgrifenedig a thasgau a chyfyngiad amser a fydd yn eich paratoi ar gyfer arholiadau.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?

 Gan fod y cwrs gywerth a 3 Lefel A, gallwch ennill pwyntiau UCAS a fydd yn eich helpu i wneud cais am le mewn Prifysgol i astudio pynciau megis Nyrsio, Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Radiograffeg, Therapi Galwedigaethol, Hybu Iechyd, Gwaith Cymdeithasol neu Ddysgu. Fel arall, gallwch wneud cais am swyddi fel Cynorthwy-ydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Weithiwr Prosiect.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.