Entry Requirements : Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar gyfer y cwrs ac eithrio safon addysg gyffredinol dda. Mae profiad byw, ymrwymiad i lwyddo a chyfweliad llwyddiannus yn angenrheidiol.
Beth fyddai’n ei astudio?
Mae’r cymhwyster gywerth a 3 Lefel A. Mae’r cwrs trylwyr hwn yn llawn amser ac wedi’i ddylunio ar gyfer pobl sy’n dymuno gwella eu cymwysterau academaidd er mwyn cael mynediad i Brifysgol i astudio ar gyfer gradd sy’n ymwneud a iechyd neu gyffelyb. Er ei fod wedi’i ddylunio’n benodol i baratoi myfyrwyr am radd Nyrsio, mae’r opsiwn Astudiaethau Cyfun wedi’i ychwanegu er mwyn ei wneud yn dderbyniol fel paratoad ar gyfer galwedigaethau iechyd eraill, gwaith cymdeithasol neu unrhyw ddisgyblaeth arall sydd a sail mewn iechyd.
Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?
Gan fod y cymhwyster gywerth a 3 Lefel A, bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais am le mewn prifysgol i astudio am radd mewn nyrsio neu bwnc arall sy’n ymwneud a iechyd. Derbynnir cymhwyster y cwrs hefyd er mwyn gwaith cymdeithasol, iechyd amgylcheddol a disgyblaethau meddygol amgen lle mae gradd yn ofynnol ar gyfer mynediad.
English (Saesneg)



