Entry Requirements : Nid oes anghenion mynediad ffurfiol, ond byddai gradd TGAU Saesneg da o fantais.
Beth fyddai’n ei astudio?
Y prif gymhwyster a enillir yw’r Diploma OCR mewn Gweinyddiaeth (Busnes Proffesiynol) ar Lefel 2 a’r Diploma OCR mewn Prosesu Geiriau (Busnes Proffesiynol) ar Lefel 2 neu 3. Byddwch yn dysgu ystod o sgiliau gweinyddiaeth sy’n amrywio o gyfathrebiad busnes ysgrifenedig i drefnu cyfarfod a threfnu trafnidiaeth a llety. Ar ben hyn byddwch yn dysgu sgiliau clywdeipio gan ddefnyddio cyfarwyddyd digidol a byddwch yn creu cyflwyniadau PowerPoint effeithiol a diddorol. Byddwch yn datblygu sgiliau prosesu geiriau i lefel uchel iawn. Yn ystod y cwrs cewch y cyfle i brofi’ch sgiliau trwy drefnu gweithgareddau amrywiol n y coleg trwy gydol y flwyddyn.
Byddwch yn cael eich asesu trwy arholiadau allanol a thrwy gwblhau aseiniadau model.
Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?
Mae rhagolygon gyrfa a chyfleoedd cyflogaeth pobl gyda Sgiliau Proffesiynol Busnes yn rhagorol. Mae ymgeiswyr a fu’n llwyddiannus yn y gorffennol wedi sicrhau cyflogaeth mewn swyddfeydd cyfrifwyr, cyfreithwyr ac yn y cyngor sir. Gallwch hefyd ddewis symud ymlaen i astudio ar gwrs Lefel 3 arall yn y coleg mewn maes perthnasol.
English (Saesneg)



