Sgiliau Byw'n Annibynnol
Mae Coleg Ceredigion yn cynnig cwrs arbennig i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu sy’n dymuno ehangu eu dysg o fewn amgylchedd gyda chefnogaeth ddwys.
Yn Aberystwyth mae darpariaeth llawn amser sydd wedi’i hanelu at ddisgyblion sydd wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar (y mwyafrif rhwng 16-21). Bydd y myfyriwr hefyd yn mynychu profiad gwaith, a hynny gan amlaf am ddiwrnod yr wythnos. Gall y cwrs redeg dros un, dwy neu dair blwyddyn yn ddibynnol ar angen a chynnydd y myfyriwr. Fel rhan o’r cwrs, gall dysgwyr ddisgwyl datblygu eu sgiliau personol a galwedigaethol gan fod y cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cwrs astudiaeth uwch ac ar gyfer cyflogaeth. Mae sgiliau hanfodol Llythrennedd, Rhifedd a TGCh hefyd yn gynwysedig ar y cwrs.
Ar gampws Aberteifi ac Aberystwyth mae darpariaeth rhan amser sydd wedi’i anelu at ddisgyblion sydd wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar yn ogystal â dysgwyr hŷn. Cynigir amrywiaeth o fodiwlau (sy’n amrywio o un flwyddyn i’r llall) a chaent eu cyflwyno mewn sesiynau 2 awr. Gan amlaf bydd dysgwyr yn ymuno â grŵp bychan gyda chefnogaeth o lefel dwys. Mae’r ddau gwrs yn rhedeg ar lefel Mynediad 1, 2 a 3 a Lefel 1. Cyn gwneud cais am unrhyw un o’r cyrsiau, rhaid i fyfyrwyr ymweld â’r coleg fel y gallant weld y cwrs ar waith er mwyn trafod eu hanghenion penodol.
Noder os gwelwch yn dda fod croeso i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ymuno â chyrsiau’r brif ffrwd ar y ddau gampws.
English (Saesneg)



