Mynediad i Addysg Bellach (Mynediad Galwedigaethol) - Lefel Mynediad ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu
Sgiliau Byw'n Annibynnol
Entry Requirements : Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol ond cynhelir cyfarfodydd cynllunio i benderfynu os all y Coleg ateb eich anghenion.
Beth fyddai’n ei astudio?
Gallwch astudio modiwlau yn y meysydd canlynol: Cyfathrebu; Defnyddio Rhifau; Addysg Iechyd; Sgiliau Gwaith; Sgiliau Byw’n Annibynnol; Astudiaethau Cyffredinol; Astudiaethau Creadigol. Yn ogystal gallwch ddewis astudio rhannau o brif gyrsiau’r coleg. Cynllunnir rhaglen unigol ar eich cyfer a fydd yn cynnwys rhai o’r modiwlau uchod. Bydd cymorth ar gael fel bo’r angen. Bydd rhyddid i chi ddewis y cwrs ar sail eich diddordebau neu’ch gallu. Gall nifer ohonoch symud ymlaen i ddilyn cyrsiau eraill yn y coleg ar ol gorffen y cwrs.
Gan fod profiad gwaith yn rhan o’r cwrs byddwch yn treulio cyfnod o leiaf hanner diwrnod hyd at ddau ddiwrnod yr wythnos mewn lleoliad gwaith gyda chymorth fel bo’r angen. Gall rhai ohonoch ddewis mynd ymlaen i gyflogaeth gynaledig.
Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?
Ein nod lle bynnag fo’n bosib yw eich gosod mewn cyflogaeth agored neu gyflogaeth gyda chymorth. Os dymunwch, bydd cyfle i chi fynd ymlaen i ddilyn cwrs arall llawn amser yn y coleg.
English (Saesneg)



