Technoleg Gwybodaeth
Mae Coleg Ceredigion yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau TGCh
galwedigaethol sy’n defnyddio ymdriniaeth ymarferol a gafaelgar tuag at ddysgu ac asesu. Mae’r cymwysterau hyn, a gaiff eu harwain gan y diwydiant, wedi eu paratoi ar gyfer y sectorau TGCh/Busnes/Technoleg Greadigol ac maent yn gweddu i ystod eang o arddulliau a galluoedd dysgu. Gall astudio TGCh yng Ngholeg Ceredigion agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd. Gan fod
y cymhwyster Diploma Estynedig Lefel 3 mewn TGCh gywerth â 3 Lefel A, gallwch ddewis parhau gyda’ch astudiaeth ar lefel Addysg Uwch. Mae llawer o’n myfyrwyr blaenorol wedi ennill cyflogaeth yn lleol a thros y DU, yn ogystal â symud ymlaen at Addysg Uwch.
Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.
English (Saesneg)



