Entry Requirements : 4 TGAU graddau C neu uwch gan gynnwys Saesneg, neu gymhwyster Lefel 2 mewn pwnc perthnasol. Gall fod yn bosib i fyfyrwyr sydd heb y cymwysterau hyn gael eu derbyn ar sail cyfweliad llwyddiannus.
Beth fyddai’n ei astudio?
Mae’r Diploma Estynedig yn gyfwerth a 4 Lefel A, graddau A*-C, ac yn cael ei raddio ar lefel Llwyddiant, Teilyngdod a Rhagoriaeth. Gall unedau gynnwys: Cyfathrebu Busnes Digidol; Cydweithio gydag Eraill; Datrys Problemau; Creu Arddangosiad Digidol; Delweddu a Ffotograffiaeth Ddigidol; Fideo Digidol; Creu Cartŵ ac Animeiddio; Creu Tudalennau i’r We; Diogelwch a Rheoliadau’r Rhyngrwyd; Bwrdd-gyhoeddi; Cynllunio Gyrfa ar gyfer TGCh; Sain Ddigidol; Gwe-Letya a Rheoli gwefannau; Gorffennol, Presennol a Dyfodol y Rhyngrwyd; Rheoli Prosiectau; E-farchnata; E-fasnach; Creu Cynllun Busnes; Cynhyrchu Gemau Cyfrifiadur; Technoleg Gemau Cyfrifiadur. Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn TGCh a Chyfathrebu fel rhan o’r cwrs
Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?
Mae’r cwrs yn datblygu dealltwriaeth eang i dechnoleg gyfoes a’i ddefnydd yn y sector TGCh, Busnes a’r sector creadigol. Bydd y cymhwyster o ddefnydd i’r rhai hynny sydd yn chwilio am swydd neu symud ymlaen at Addysg Uwch.
English (Saesneg)



