Tystysgrif Genedlaethol Lefel 2 mewn TGCh


Technoleg Gwybodaeth

Campws : Aberystwyth/Aberteifi
Hyd : Blwyddyn
Entry Requirements
: Nid oes unrhyw ofynion penodol. Mynediad ar sail cyfweliad llwyddiannus.

Beth fyddai’n ei astudio?

 Mae’r Tystysgrif Genedlaethol yn gyfwerth a 4 TGAU graddau A*-C, ac yn cael ei raddio ar lefel Llwyddiant, Teilyngdod a Rhagoriaeth. Gall unedau gynnwys: Sgiliau TGCh ar gyfer Busnes; Creu Tudalennau ar gyfer y We; Delweddu Digidol; Dylunio a Chynhyrchu Cynnyrch Aml-gyfrwng Rhyngweithiol; Bwrdd-gyhoeddi; Taenlenni; Cronfeydd Data; Dyfeisgarwch ac e-fasnach Technolegol; Sustemau TGCh ac anghenion defnyddwyr; Cynllunio Gyrfa ar gyfer TGCh; Animeiddio ar gyfer y We; Creu Fideo.

Byddwch hefyd yn astudio Tystysgrif Prosesu Testun Lefel 2 ynghyd â Sgiliau Hanfodol mewn TGCh a Chymhwyso Rhif neu Gyfathrebu.

Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus?

 Mae’r cwrs yn cynnig cyflwyniad ardderchog i dechnoleg gyfoes a’i ddefnydd yn y sector TGCh, Busnes a’r sector creadigol. Bydd y cymhwyster o ddefnydd i’r rhai hynny sydd yn chwilio am swydd neu symud ymlaen i ddilyn y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn TGCh ar Gampws Aberystwyth neu Aberteifi.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.