Y Celfyddydau Perffomio


Wedi’i leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau Gweledol a Pherfformio
pwrpasol y Coleg, mae’r adran gelfyddydau egniol hon yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cynnal rhaglen hyfforddiant galwedigaethol sy’n darparu carreg adlam i gyrsiau prifysgol. Mae rhain yn gyfleon i ddatblygu sgiliau creadigol, ymarferol ac academaidd o safon uchel trwy astudio unedau unigol cyffroes, heriol a dyfeisgar. Caiff gwaith ei asesu’n barhaol trwy’r cwrs dwy flynedd a gall y myfyrwyr ddisgwyl perfformio mewn hyd at bum cynhyrchiad y flwyddyn.
Mae gan pob aelod o staff dysgu brofiad proffesiynol yn eu maes penodol ac mae dosbarthiadau meistr gan ymwelwyr sy’n ymarferwyr proffesiynol yn cael eu cynnal yn achlysurol. Mae’n myfyrwyr wedi gweithio’n rheolaidd gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac mae gennym gysylltiadau agos gydag Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Theatr a Pherfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn aml iawn mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ac ysgolion drama/draws ar hyd a lled y DU. Gellir dod o hyd i’n cynfyfrwyr yn perfformio’n broffesiynol, yn cyfarwyddo, yn gwneud coreograffi ac yn dysgu trwy Ewrop gyfan.
Caiff ymgeiswyr eu gwahodd i weithdy ym mis Mai bob blwyddyn ble mae cyfle i weld prif gynhyrchiad y myfyrwyr presennol ac i weithio gyda’r staff. Y gofynion mynediad arferol yw o leiaf pedair TGAU graddau A* i C neu gymhwyster cywerth, ynghyd â chlyweliad llwyddiannus.

Ceidw Coleg Ceredigion yr hawl i newid y rhaglen fel bo’r angen yn nhermau cyrsiau, pris neu wasanaeth. Dim on dos fydd nifer digonol o fyfyrwyr wedi cofrestru y caiff cwrs ei redeg.