Gally coleg roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn ag unrhyw grantiau neu lwfans sydd ar gael, a byddwn yn rhoi cyngor ar sut a phryd i wneud cais amdanynt. Mae’r rhan fwyaf o gymorth ariannol yn cael ei gyflenwi gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, ac mae’r rheolau’n newid o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’r rhan fwyaf o gymorth ariannol yn ddibynnol ar eich oedran a’r nifer o oriau yr ydych yn astudio yn y coleg. Gall hefyd gael ei effeithio gan astudiaethau diweddar, grantiau yr ydych eisoes wedi eu derbyn, eich cenedligrwydd a’ch incwm teuluol.
Cewch fwy o fanylion gan y Swyddogion Cyngor a Chyfarwyddyd, neu drwy edrych ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cronfa Ariannol wrth Gefn – Myfyrwyr 16 mlwydd oed a throsodd
Gall Cronfa Ariannol wrth Gefn y coleg gynnig cymorth i fyfyrwyr gyda chostau megis gofal plant, costau teithio eithriadol a chostau yn ymwneud â’r cwrs megis llyfrau, iwnifform a deunyddiau arbennig a ffioedd cofrestru. Mae’r Gronfa Ariannol wrth Gefn yn dibynnu ar brawf incwm yn seiliedig ar incwm teuluol.
Mae manylion pellach am grantiau a lwfansau ar gael yn y llyfryn ‘Ariannu Dysgu’. Gofynnwch am gopi yn y Dderbynfa, neu gofynnwch i’r Gweinyddwyr Gwasanaethau Myfyrwyr.
English (Saesneg)



