Cyngor Gyrfaoedd ac Addysg Uwch

Mae Coleg Ceredigion yn cynnig cyngor gyrfaoedd i bob myfyriwr. Cedwir gwybodaeth helaeth yn y ddwy lyfrgell ar y ddau gampws ar ffurf ysgrifenedig ac ar gyfrifiadur. Mae gwybodaeth am Brifysgolion a chyngor a chymorth gyda gwneud ceisiadau i Addysg Uwch ar gael. Yn ogystal gall myfyrwyr drafod eu gyrfa gydag ymgynghorwyr o Gwmni Gyrfa Cymru sy’n ymweld â’r campws yn wythnosol. Mae staff addysgu’r coleg hefyd yn cynnig cyngor ar sut i ddilyn ymlaen i raglenni hyfforddiant pellach. Mae’r coleg wedi derbyn Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru am ddarparu Addysg Gyrfaoedd ac Addysg a Chyfarwyddyd o’r radd flaenaf sy’n gysylltiedig â byd gwaith.