Proffiliau Aelodau'r Bwrdd

Maria Stedman - Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr

Mae gan Maria Stedman gefndir cyfrifeg ac mae wedi dal swyddi uwch yng Nghyngor Sir Dyfed, Cyngor Sir Caerfyrddin a Phrifysgol Abertawe.  Bu'n Bennaeth Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) Wales Cymru am naw mlynedd cyn iddi ymddeol.

Ar ôl ymgymryd â gwahanol rolau gwirfoddol o fewn pwyllgorau rhanbarthol CIPFA rhwng 1999-2002 roedd hi’n Llywydd CIPFA De Cymru a Gorllewin Lloegr; Aelod cyfetholedig Cyngor CIPFA; Cadeirydd Bwrdd Cymwysterau CIPFA; Is-gadeirydd Pwyllgor y Rhanbarthau; ac aelod o Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant CIPFA.

Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin; Trysorydd yr Ŵyl Ffilm Geltaidd Ryngwladol; aelod bwrdd cychwynnol a thrysorydd canolfan galw heibio ieuenctid Dr M'z, Caerfyrddin; a, rhwng 2012-2014, fel aelod lleyg Pwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymrae

John Edge - Is-gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr

Mae gan John Edge radd MA yn y Gyfraith, a chefndir mewn Datblygu Busnes Rhyngwladol, Ymgynghoriaeth, Cydsoddiadau a Chaffaeliadau a Mentrau ar y Cyd. Ar ôl amrywiol swyddi Ymgynghorydd Rheoli, daeth yn Gyfarwyddwr Datblygiad Rhyngwladol, ac yna’n Bennaeth Caffaeliadau ar gyfer cwmni logisteg mawr yn y DU, yn datblygu eu rhwydwaith byd-eang.

Mae ei yrfa wedi cwmpasu creu strategaeth, i gynllunio a gweithredu; datblygu, ymgyrchoedd gwerthu a marchnata; ac arfarniadau rheolaeth a pherfformiad. Ynghyd â Chydsoddiadau a Chaffaeliadau (M&A) bu hefyd yn ymwneud â diwydrwydd dyladwy, yn cynnwys bancio, meysydd cyfreithiol, cyfrifeg, treth, eiddo, cyflogaeth, amgylcheddol, pensiynau ac yswiriant, er enghraifft, cyd-drafod deliau a chontractau terfynol. Cwmpasodd ei yrfa chwe chyfandir, gyda ffocws ar Ogledd America, Ewrop, ac Asia.

Symudodd i Geredigion, a thra’n parhau â gwaith ymgynghori, cymerodd radd BSc mewn Ecoleg, ac mae’n canolbwyntio ar wirfoddoli mewn prosiectau cymunedol, addysg a phrosiectau cadwraeth. Yng Ngheredigion mae’n ddirprwy gadeirydd ei gymdeithas gymunedol leol; cynghorwr gyda Chyngor ar Bopeth; a siaradwr ar gyfer Coed Cadw, ac mae’n  gwarchod ei dir ac eiddo ei hun fel ‘ffermwr gweithredol’. Yn ogystal mae’n ymgymryd â phrosiectau addysgol a chadwriaethol rhyngwladol rheolaidd ble y bo’n bosibl.

Paul Jones - Aelod o'r Bwrdd

Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Y Bontfaen cyn cwblhau Gradd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn 1982 a TAR yn 1983.  I ddechrau, roedd yn Bennaeth Daearyddiaeth yn Ysgol Gyfun Penyrheol Abertawe cyn cymryd rôl Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau yng Ngholeg Addysg Bellach Gorseinon rhwng 1990-96.  Ym 1997 daeth yn Gofrestrydd Academaidd y Coleg.

Ar ôl ennill gradd Meistr mewn Addysg yn 1996 a'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (NPQH) yn 2002 symudodd i Ysgol Gyfun Bryngwyn yn Llanelli yn 2003 yn wreiddiol fel Dirprwy Bennaeth, yna yn Bennaeth ac yn ddiweddarach fel Pennaeth Gweithredol ffederasiwn ysgolion Bryngwyn a Glan y Môr yn 2014.  Yn ystod 2007-2009 cafodd ei secondio i Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin yn gyfrifol am ddatblygu'r Cwricwlwm 14-19.

Mae wedi bod yn arolygydd Cymheiriaid gydag Estyn ers 25 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n aelod o grŵp llywio cenedlaethol Estyn/OECD er Gwella Ysgolion.

Huw Davies - Aelod o'r Bwrdd

Yn enedigol o Lanelli, ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, mynychodd Huw Ysgol Gyfun y Strade cyn ennill gradd BA (Anrh) mewn Cyfrifyddu a Chyllid o Ysgol Fusnes Bryste.   Gan benderfynu parhau â'i yrfa ym maes cyllid, cymhwysodd Huw fel Cyfrifydd Siartredig gyda Bevan & Buckland yn Abertawe cyn ymuno â KPMG ym Mryste.  Ar ôl pedair blynedd fel Rheolwr Archwilio gyda KPMG, symudodd Huw i ddiwydiant gan ddod yn Uwch Reolwr Ariannol Cymru a De-orllewin Lloegr ar gyfer y Cwmni FTSE 250 WS Atkins plc “Atkins”.  

Ar ôl secondiad i Qatar, cafodd ei ddyrchafu’n Uwch Reolwr Ariannol - De’r DU ar gyfer cangen Dylunio a Pheirianneg Atkins, cyn penderfynu dychwelyd i’w wreiddiau ac ymuno â Chlwb Rygbi’r “Scarlets,” Llanelli fel eu Pennaeth Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni, cyn iddynt symud i stadiwm newydd ym mis Gorffennaf 2008.

Yn 2012, sefydlodd Huw ei fusnes ymgynghori preifat ei hun gan ymgymryd â rolau Cyfarwyddwr Ariannol gyda nifer o fusnesau bach a chanolig ledled De Cymru.    

Mae profiad Huw mewn ymarfer bach a mawr, ac amrywiol rolau masnachol heriol mewn diwydiant wedi arwain at agwedd hollol agored a chadarn ar bob agwedd ar fusnes.

Delwyn Jones - Aelod o'r Bwrdd

Delwyn Jones yw Cyfarwyddwr Masnachol a pherchennog cwmni T.A.D Builders a leolir yn Llanelli, sydd wedi bod yn gweithredu ers dros 40 o flynyddoedd. Mae ganddo brofiad helaeth mewn syrfeo, amcangyfrif a rheolaeth fasnachol ar gyfer pob math o brosiectau adeiladu.  Ar hyn o bryd mae’n Ymddiriedolwr/Cyfarwyddwr Sgiliau Adeiladu CYFLE, sef Cynllun Prentisiaeth Ar y Cyd Rhanbarthol ar draws De Orllewin Cymru, sy’n anelu at ddarparu cefnogaeth i oedolion ifanc i gael cyflogaeth gynaliadwy o fewn y diwydiant adeiladu. 

Mae’n eistedd fel Cadeirydd Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin Cyf. (CCTAL) cymdeithas hyfforddi a sefydlwyd yn Sir Gaerfyrddin mewn cysylltiad â chwmnïau adeiladu o fewn y sir a darparwyr hyfforddiant lleol i roi fframwaith cefnogaeth ar gyfer anghenion hyfforddi a datblygu sydd eu hangen ar aelodau’r gymdeithas a phrentisiaethau/hyfforddeion.  Mae Delwyn yn cynrychioli Peirianwyr ar gyfer Datblygiadau Tramor (EFOD) Gorllewin Cymru, yn cyflawni Gwaith elusennol yn Uganda, ac mae’n gwasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gynradd Ffwrnes, Llanelli

Eifion Griffiths - Aelod o'r Bwrdd

Mae gan Eifion Griffiths gefndir mewn Bancio Masnachol, Datblygiad Economaidd a Gweinyddiaeth Prifysgol.  Bu’n uwch fancwr masnachol gyda Banc Lloyds, Dadansoddwr Buddsoddiadau gydag Awdurdod Datblygu Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes ym  Mhrifysgol Abertawe, lle bu’n gyfrifol am fwy na 12 mlynedd am ailddatblygu ac ad-drefnu’r campws, yn cynnwys prosiectau menter cydweithredol ar gyfer lletyau myfyrwyr, cyfleusterau chwaraeon a datblygiad economaidd, gan gynnwys datblygiadau Technium mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Am chwe blynedd roedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Grŵp Pobl,  y datblygwyr a darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig mwyaf yng Nghymru, a bu’n gadeirydd eu hadran fasnachol. Tan yn ddiweddar roedd yn aelod o Gyngor Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’n dal i fod yn Gyfarwyddwr ac yn Ymddiriedolwr Cynlluniau Pensiwn Prifysgol Cymru. Cyn hyn bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn Drysorydd Cenedlaethol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (Union of Welsh Independents), ac mae’n dal i wasanaethu ar eu Pwyllgor Buddsoddiadau.

Jayne Woods - Aelod o'r Bwrdd

Gwnaeth Jayne Woods gymhwyso fel cyfrifydd gyda Deloitte ble bu’n gweithio ar ystod o gleientiaid yn y DU a dramor.  Mae hi’n Gymrawd Sefydliad y Cyfrifyddion Siartredig yng Nghymru a Lloegr ac mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o wahanol rolau ariannol yn y sector cyhoeddus a phreifat hefyd, gan gynnwys Rheolwr Breindaliadau ar gyfer asiant JK Rowling, Cyfarwyddwr Ariannol interim gyda Chymdeithas Dai ac fel Prif Swyddog Ariannol ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.

Ar hyn o bryd mae hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Chymwysterau Cymru ac mae’n gwasanaethu ar Bwyllgor Cyfalaf Cyngor Celfyddydau Cymru.  Mae hi’n drysorydd ar gyfer Cwlwm (cylchgrawn Cymraeg) ac yn flaenorol bu hi’n drysorydd Cylch Meithrin Myrddin (grŵp cyn-ysgol) yng Nghaerfyrddin.

Angharad Harding - Aelod o'r Bwrdd

Mae Angharad Harding yn ymgynghorydd busnes profiadol sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda Busnes mewn Ffocws fel Rheolwr Hwb, Hwb Ffocws Caerfyrddin. Mae ei chefndir yn cynnwys gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ill dau yn darparu cymorth busnes. Mae ei chefndir a’i phrofiad mewn rheolaeth prosiectau, cynllunio busnes, ceisiadau am gyllid o fewn amrywiaeth o sectorau. Ar hyn o bryd, mae’n hwyluso Grŵp Gweithredu Trefi SMART ar gyfer rhanbarth Bae Abertawe ac yn cydlynu sawl grŵp rhwydweithio. Ar lefel bersonol, mae hi’n aelod o Bwyllgor Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Sir Gaerfyrddin, Cwins Caerfyrddin a’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon leol.

Erica Cassin - Aelod o'r Bwrdd

Mae Erica Cassin yn ymarferydd lefel Bwrdd proffesiynol, a hithau wedi gweithredu ar lefelau Gweithredol ac Anweithredol.  Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn Adnoddau Dynol, gan gynnwys rolau fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ar gyfer cyflogwyr sector preifat mawr mewn sectorau gofal iechyd, fferyllol a gwasanaethau ariannol yn y DU.  Mae Erica’n fedrus o ran arwain newid a thrawsffurfiad sefydliadol, newid diwylliant, datblygu talent ac arweinyddiaeth. Mae hi’n frwdfrydig iawn dros alluogi pobl i gyrraedd eu potensial llawn, ac mae hi wedi gweithio gyda thimau amrywiol, mawr yn meithrin diwylliant o ymgysylltiad dwys, cynhwysiant, grymuster a chydweithio.  Mae gan Erica bortffolio o rolau anweithredol, yn cynnwys rolau Cyfarwyddwr Anweithredol ym Mhorthladd Aberdaugleddau, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, lle mae hi hefyd yn gadeirydd y Pwyllgorau Adnoddau Dynol a Thaliadau.

Yn ddiweddar cafodd ei phenodi yn Gadeirydd ar gyfer Gyrfa Cymru, ac mae hi’n Ymddiriedolwraig ar gyfer yr elusen genedlaethol Self Management UK.  Yn ogystal mae Erica wedi bod yn fentor ar gyfer y Sefydliad Symudedd Cymdeithasol.  Mae Erica yn meddu ar radd BA mewn Economeg Ddiwydiannol, mae hi’n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), ac mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Hyfforddi Personol a Busnes.

Dr Andrew Cornish - Pennaeth / Prif Weithredwr

Ar hyn o bryd mae Dr Cornish yn Bennaeth a Phrif Weithredwr ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rhan o Grŵp Prifysgol Cymru:Y Drindod Dewi Sant.

Cychwynnodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Maesteg lle bu'n astudio Safon Uwch cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer gradd anrhydedd mewn ffiseg ym Mhrifysgol Lerpwl ac yna doethuriaeth mewn ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae'n aelod o'r Sefydliad Ffiseg (CPhys MinstP) ac mae wedi gweithio fel asesydd cymheiriaid i Estyn am bron i 20 mlynedd, yn asesu safonau colegau addysg bellach eraill yng Nghymru.

Fel Pennaeth, mae’n aelod o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSBs) yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac mae’n eistedd ar Fwrdd Pentref Llesiant Llanelli. Mae’n cynrychioli Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion trwy Golegau Cymru, sefydliad ymbarél sy’n cynrychioli’r holl Golegau Addysg Bellach yng Nghymru.  Mae wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers dros 25 mlynedd, gan ddal ystod eang o swyddi addysgu, rheoli ac arweinyddiaeth yn ystod yr amser hynny.

Siân Treharne - Ysgrifennydd y Cwmni Dros Dro a Chlerc i Fwrdd y Llywodraethwyr

Dechreuodd Siân ei haddysg uwchradd yn Ysgol Tregib, Llandeilo 1987, lle yr astudiodd TGAU a Safon Uwch cyn symud ymlaen i Athrofa Addysg Uwch Abertawe, lle graddiodd yn 1998 gyda Gradd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Busnes.   Yn hwyrach y flwyddyn honno, ymunodd Siân â Choleg Sir Gâr (Coleg Technoleg a Chelf Sir Gaerfyrddin gynt) fel Gweinyddwr y Gofrestrfa.

Aeth Sian ymlaen i fod yn Swyddog Derbyn, ac yn 2004 cafodd ei phenodi’n Rheolwr Ansawdd.  Yn 2013, graddiodd Siân o Goleg Prifysgol Cymru Casnewydd gyda gradd MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg Bellach).   Ochr yn ochr â’i rôl fel Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i Fwrdd y Llywodraethwyr, mae Siân yn parhau mewn modd ffracsiynol yn ei rôl fel Rheolwr Ansawdd.

John Williams - Aelod Staff o’r Bwrdd

Cyn darlithio yng Ngholeg Sir Gâr, bu John yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol a rheolwr mewn amrywiol amgylcheddau, gan gynnwys y diwydiannau awyrennau a modurol, cyn newid i’r sector hyfforddi preifat yn 2004. Yn flaenorol roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Cynhyrchu ac yn aelod cysylltiol o Sefydliad Siartredig yr Aseswyr Addysgol.

Mae wedi gweithio ar, ac wedi rheoli contractau ar gyfer cwmnïau lleol ac ystod o gwmnïau amlwladol fel, Airbus, Boeing, Nissan a Toyota. Mae’n archwiliwr profiadol ac mae wedi trin system ddogfennaeth ac ansawdd ISO 9001:2008 ac mae wedi ennill statws Buddsoddwyr mewn Pobl (Aur). 

Bu John yn rheoli cwmni hyfforddi preifat tan 2012, yn gweithio gyda sefydliadau dyfarnu a Llywodraeth Cymru i gynnig rhaglenni dysgu yn y gwaith ar draws De Cymru. Hefyd mae wedi cyd–drafod contractau masnachol a rhaglenni hyfforddi, gyda chwmnïau megis, Amazon, Cartrefi Cymru a Remploy.

Mae wedi bod yn aelod rhanbarthol o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a bu’n ymwneud â rhaglenni peilot ar gyfer City & Guilds a’r Adran Addysg a Sgiliau (DfES).

Julia Green - Aelod Staff Cysylltiol a Chefnogwr i’r Cynrychiolydd Dysgwyr

Cyflogir Julia Green yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad Dysgwyr a hithau yw’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol dynodedig (ALNCo).  Mae hi wedi gweithio yn y coleg ers dros ugain mlynedd ac mae’n gwneud rôl strategol draws-gampws yn arwain a rheoli’r tîm Cymorth Dysgu.  Mae’r rôl yn cynnwys sicrhau bod y coleg yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 trwy ddarparu addasiadau rhesymol i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Fel athrawes gymwysedig, mae ganddi gymwysterau arbenigol Lefel 7 oddi wrth Brifysgol De Cymru mewn Anawsterau Dysgu Penodol, Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg ac Awtistiaeth.  Yn 2017, fe gwblhaodd yn llwyddiannus radd Meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac ar hyn o bryd mae hi’n ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol gyda Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn ymchwilio i gynhwysiant mewn addysg ôl-16.

Louis Dare - Aelod Staff o’r Bwrdd

Mae Louis yn angerddol o frwdfrydig dros addysg sy’n gwella cyflogadwyedd a datblygiad gyrfaol ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion sydd naill ai’n ddiwaith neu mewn rolau cyflog isel. Mae gweithio gydag adran Datblygu Busnes ac Arloesi’r Coleg wedi galluogi Louis i ddatblygu cysylltiadau cryf gyda’r sector hwn trwy weithio mewn partneriaeth â Remploy Maximus a’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Canolfannau Gwaith maen nhw’n eu rheoli.

Yn y gorffennol, mae Louis wedi dysgu TGCh (2004-2008), wedi arwain y Cwrs TGCh Cymhwysol yn Ysgol Maes Yr Yrfa (2008-2012) fel rhan o bartneriaeth 14-19 y Coleg, a bellach mae wedi’i gyflogi fel y Rheolwr e-Ddysgu ac Arloesi ar gyfer Grŵp PCYDDS (2017 -presennol).

Y tu allan i Goleg Sir Gâr mae diddordebau Louis yn cynnwys cefnogi twristiaeth leol.  Yn ystod y pandemig cafodd Louis wahoddiad i gyfrannu at redeg grŵp cymorth ar-lein a oedd yn darparu arweiniad ariannol a chyfreithiol ynghylch gwe-lywio cyfnodau clo, cyfyngiadau, a phecynnau cymorth economaidd Covid.

Alan Smith - Aelod o'r Bwrdd

Tyfodd Alan i fyny yn Sir Fynwy a graddiodd o Brifysgol Abertawe mewn Mathemateg Bur a Chyfrifiadureg a chymhwyster T.A.R. Mae wedi treulio ei fywyd gwaith cyfan mewn addysg.

Bu’n athro Mathemateg yng Nghastell-nedd i ddechrau ac yna’n athro Cyfrifiadura ym Mhorthcawl. Ymunodd â Choleg Technegol Llanelli fel darlithydd Cyfrifiadura.  Symudodd ymlaen i reoli’r Gyfadran Cyfrifiadura ynghyd â meysydd pwnc eraill.  Hefyd trefnodd gyrsiau masnachol ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd â phrosiect Ewropeaidd.  Yn ogystal roedd yn arholwr C.B.A.C. ac yn arolygydd cymheiriaid gydag Estyn.  

Am bum mlynedd cyn ymddeol o Goleg Sir Gâr, Alan oedd ei Reolwr Trawsnewid, yn cynorthwyo’r Pennaeth a’r Tîm Gweithredol i ddatblygu achos busnes uno gyda Grŵp Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant ac ar ôl yr uno bu’n cydlynu gweithgareddau integreiddio.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB