Safonau’r Iaith Gymraeg.

Yr Iath Gymraeg - Ein Hymrwymiad
Adroddiad - 1 Awst 2021 - 31 Gorffennaf 2022

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod fframwaith cyfreithiol er mwyn cyflwyno dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau ymddygiad ar y Gymraeg. 

 Mae’r dyletswyddau sy’n deillio o’r safonau yn golygu dylai sefydliadau beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg sef ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Pwrpas y safonau yw:

  • ei gwneud hi’n eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau o ran y Gymraeg
  • ei gwneud hi’n fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
  • sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd

Mae'n rhaid i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion gydymffurfio â Safonau yn y meysydd canlynol:

  • Cyflenwi Gwasanaethau
  • Llunio Polisi
  • Gweithredu
  • Cadw Cofnodion

Bydd y Safonau hyn yn weithredol o’r 1af o Ebrill 2018. Ceir copi o’r Safonau sydd yn berthnasol i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion isod:

Safonau'r Iaith Gymraeg Coleg Sir Gâr

Safonau'r Iaith Gymraeg Coleg Ceredigion

Cwynion

Os oes gennych unrhyw gwynion ynghylch y defnydd o'r Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, cysylltwch â ni ar:

complaints@colegsirgar.ac.uk

Gwybodaeth Bellach 

Os hoffech fwy o wybodaeth am y Safonau, cysylltwch â:
Jan Morgan, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB