Yn ddiweddar, mae Ceris Jones wedi dechrau ei swydd newydd fel ffisiolegydd y galon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan weithio yn ysbytai Bronglais a Glangwili.
Ers gadael Ysgol Dyffryn Teifi, roedd Ceris yn gwybod ei bod eisiau gyrfa yn y sector iechyd ond nid oedd yn siŵr pa lwybr i'w gymryd. "Roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau gyrfa yn y sector iechyd ond roeddwn yn gwybod nad dychwelyd i'r ysgol i wneud fy mhynciau Safon Uwch oedd y llwybr i mi," meddai Ceris. "Ar ôl ymchwilio i lwybrau eraill, penderfynais astudio lefel 3 BTEC mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Ceredigion."
Ar ôl ei hamser yng Ngholeg Ceredigion, enillodd Ceris le i astudio ffisioleg y galon ym Mhrifysgol Abertawe, dim ond un o bum prifysgol yn y DU sy'n cynnig y cwrs.
Rhagorodd Ceris ar y cwrs ac ar ôl graddio enillodd waith ar unwaith.
"Roedd fy nhiwtoriaid yn gefnogol iawn trwy gydol fy amser a phryd bynnag roeddwn angen help neu arweiniad, roedd ganddynt amser o hyd i mi ac roeddwn wir yn ei werthfawrogi, ac rwy'n gwybod heb eu cefnogaeth ni fyddwn wedi cael y graddau angenrheidiol i fynd ymlaen i'r brifysgol.
"Nid yn unig gwnaethant helpu’n academaidd, gwnaethant hefyd helpu a chynghori am wahanol yrfaoedd yn y sector iechyd.
"Yn amlwg, roeddwn i'n ymwybodol o yrfaoedd fel nyrsio, meddygaeth a deintyddiaeth ond roeddwn i'n gwybod nad y rhain oedd y llwybr i mi, felly fe wnaeth tiwtoriaid fy nghyflwyno i amrywiaeth o yrfaoedd posib, rhai nad oeddwn erioed wedi clywed amdanynt, sef gyrfa fel ffisiolegydd y galon.
"Ar ôl ymchwilio mwy amdano, roeddwn i'n gwybod mai dyma'r llwybr gyrfa i mi.
"Heb Goleg Ceredigion, fyddwn i ddim lle rydw i nawr."