Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r cymhwyster lefel dau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i gael gyrfa yn y diwydiant barbro.

Mae'n cwmpasu'r holl driniaethau barbro sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau pellach.  Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel barbwr. 

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn darparu’r cyfleoedd ymarferol i chi gan eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon barbro go iawn. 

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.

At a Glance

  Rhan Amser

  Blwyddyn

  Campws Aberteifi

Nodweddion y Rhaglen


Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sy’n agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, yn eich caniatáu i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Mae yna hefyd bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sy’n gallu arwain at waith cystadleuaeth rhyngwladol.

Mae hwn yn gwrs rhan-amser a fydd yn cynnwys gweithio un noson yr wythnos yn salon y coleg.

Dilyniant a Chyflogaeth



Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel uwch, prentisiaeth ond yn y pen draw i waith fel barbwr iau. 

Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Bydd cyfleoedd gyrfaol yn eich galluogi i symud ymlaen naill ai i’r cwrs diploma lefel tri neu i mewn i’r salonau masnachol, siopau barbwr neu hunangyflogaeth.

Cynnwys y Rhaglen


Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn yn rhan-amser:

  • Ymgynghori â chleientiaid a’u cynghori
  • Siampŵo, cyflyru a thrin gwallt a chroen y pen 
  • Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith 
  • Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol
  • Torri blew’r wyneb i siâp gan ddefnyddio technegau sylfaenol
  • Sychu a gorffennu gwallt dynion
  • Creu amlinellau a manylion sylfaenol yn y gwallt

Asesu'r Rhaglen


Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig

Gofynion y Rhaglen


Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad, fodd bynnag, mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.

Mae arnom angen o leiaf pedwar TGAU ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai'n Gymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg neu fathemateg.  Neu rydym yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.

Costau Ychwanegol


Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £275.

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.

Trefnir amryw deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB