Cewch eich ysbrydoli, eich symud ymlaen a'ch herio trwy ddilyn cwrs astudio gwerth chweil.
Byddwch yn datblygu eich gallu i ddefnyddio Saesneg fel dinesydd gweithredol a gwybodus a byddwch yn gallu siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu'n rhugl, yn briodol, yn effeithiol ac yn feirniadol - ar gyfer ystod eang o ddibenion personol, swyddogaethol a chymdeithasol.
Disgwylir i chi ymateb i ystod eang o destunau ysgrifenedig, gan gynnwys testunau heriol a deinamig.
Cipolwg
Rhan Amser
Blwyddyn
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu ar-lein
Nodweddion y Rhaglen
Gallwch astudio TGAU Saesneg ar y cyd â'ch prif raglen astudio, neu gellir ei astudio'n rhan-amser fel dosbarth nos.
Bydd y cwrs yn rhoi hyder i chi allu cyfathrebu'n effeithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Bydd y cwrs TGAU Saesneg iaith hefyd yn caniatáu i chi ddatblygu ymhellach eich dealltwriaeth yn Saesneg ac yn caniatáu i chi drosglwyddo'r sgiliau rydych chi wedi'u datblygu, ar draws eich rhaglen ddysgu yn ei chyfanrwydd.
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cwblhau'r cwrs TGAU Saesneg yn eich paratoi i wneud penderfyniadau gwybodus am gyfleoedd dysgu pellach a dewisiadau gyrfa. Bydd gan y cymhwyster bwyslais ar yr agweddau hynny ar Saesneg sy'n ofynnol ar gyfer symud ymlaen i lwybrau astudio pellach neu gyflogaeth.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau llafar a darllen ac ysgrifennu trwy ddod i gysylltiad ag ystod o dasgau. Byddwch yn dysgu sut i gyflwyno gwybodaeth a dewis a threfnu gwybodaeth a syniadau yn effeithiol ac yn berswadiol, ymateb, adfyfyrio a dadansoddi ystod eang o destunau ysgrifenedig ynghyd â chynhyrchu testunau ysgrifenedig clir a chydlynol.
Asesu'r Rhaglen
Mae'r cymhwyster yn cynnwys dwy uned a asesir yn allanol sydd wedi'u pwysoli'n gyfartal, ac un uned a asesir yn fewnol. Mae'r ddwy uned a asesir yn allanol yn profi sgiliau darllen ac ysgrifennu (gwerth 80%), tra bod yr uned a asesir yn fewnol yn profi sgiliau llafar (gwerth 20%).
Gofynion y Rhaglen
TGAU Saesneg 1 Flwyddyn - gradd D neu uwch
Cwrs datblygu Saesneg Iaith 1 Flwyddyn (cymhwyster Agored Cymru) - TGAU Saesneg Iaith gradd E neu uwch.
Mae prawf mynediad ar gael i fyfyrwyr nad oes ganddynt dystiolaeth o gymwysterau blaenorol.
Costau Ychwanegol
Efallai yr eir i gost fach iawn, fel cost cyfarpar ysgrifennu (beiros a phapur).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB