Lefel 2 Gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant: craidd

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Aberystwyth ac Aberteifi

Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu darparu cefnogaeth, cymorth a gofal i unigolion a all fod ag anghenion corfforol, meddyliol neu gymdeithasol. Mae’n faes eang sy’n cwmpasu rolau a lleoliadau amrywiol.

Y lefel dau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd: Mae’r cymhwyster hwn wedi ei anelu at ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru sy'n gweithio neu sy'n dymuno gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae wedi ei ddatblygu gan gonsortiwm City and Guilds/CBAC mewn cydweithrediad â budd-ddeiliaid o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), tiwtoriaid, athrawon ac aseswyr yn y gwaith.

Mae wedi’i gynllunio i’w gyflwyno gan ystod o wahanol fathau o ganolfannau gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith ac addysg bellach.

Nodweddion y Rhaglen

Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi'i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy'n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â'r cymhwyster neu o fewn lleoliad coleg.

Mae'r cwrs yn elfen ofynnol er mwyn symud ymlaen i'r rhan ymarfer: Lefel 2 neu 3

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer)

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio pellach; gan gynnwys y cymwysterau canlynol o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Ymarfer (Oedolion) 

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Ymarfer (Oedolion)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 (Plant a Phobl Ifanc)

Diploma a Thystysgrif Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

TAG Safon Uwch a TAG Uwch Atodol Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cymhwyster yn cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'n adlewyrchu ystod o wahanol rolau a lleoliadau

Mae’r cynnwys yn cwmpasu;

  • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Iechyd a Lles
  • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diogelu Unigolion

Iechyd a Diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol 

Dull asesu

Asesir y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 Craidd a Phlant a Phobl Ifanc Craidd trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’n llwyddiannus:

  • Tri asesiad wedi'u gosod yn allanol, yn seiliedig ar senario fewnol; ac
  • Un prawf amlddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
Gofynion Mynediad

Whilst there are no formal entry requirements, it is reasonable to assume that many learners will have achieved qualifications equivalent to level 2 and will have developed skills in planning and organization, critical thinking and problem-solving, creativity and innovation, and personal effectiveness to this level. 

This qualification provides an opportunity to refine and develop these skills to a higher level. The qualification is not age-specific and, as such, provides opportunities for learners to extend their lifelong learning.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i'r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng  aseswr, dysgwr a rheolwr.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB