Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer i’r rheiny sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Gofal Plant. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i helpu dysgwyr dros 19 oed i ymarfer fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rheiny sy'n rheoli darpariaeth Dechrau’n Deg, neu i'r rheiny sy'n cyflwyno'r cwricwlwm ar gyfer plant 3-7 oed mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.

Mae'n addas hefyd ar gyfer:

  • dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus hen gymwyster perthnasol a restrir yn ‘Fframwaith Cymwysterau gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru’ - Gofal Cymdeithasol

Cipolwg

  Rhan Amser

  Bydd angen rhwng 12 a 24 mis i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.

  Campws Aberteifi & Aberystwyth

Nodweddion y Rhaglen


Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi'i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy'n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â'r cymhwyster.

Dilyniant a Chyflogaeth


Mae'r cymhwyster yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu cyfleoedd cyflogaeth neu barhau i astudio ymhellach ar lefel uwch.

Cynnwys y Rhaglen


Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yn cwmpasu’r unedau gorfodol canlynol:

  • Arwain a rheoli ymarfer plentyn-ganolog
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd y gweithle/lleoliad
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu plant
  • Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle/lleoliad

 

Mae ystod o unedau opsiynol hefyd ar gael o fewn y cymhwyster hwn.

Asesu'r Rhaglen


Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei asesu’n allanol.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau’n llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • prosiect busnes
  • trafodaeth broffesiynol

 

Rhaid i ddysgwyr gyflawni lleiafswm o 120 credyd i gyd.

  • 90 credyd o’r grŵp Gorfodol
  • Lleiafswm o 30 credyd o’r grŵp Opsiynol

Gofynion y Rhaglen


Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu'n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.

Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch.

Costau Ychwanegol


Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i'r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Aseswr, y dysgwr a'r Rheolwr.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB