Bydd tystysgrif achrededig CIMA mewn Sage 50 yn helpu dysgwyr i arddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r meddalwedd cyfrifyddu Sage 50. Mae’r dystysgrif yn darparu safon wedi’i meincnodi y gall cyflogwyr ymddiried ynddi wrth ddefnyddio meddalwedd Sage 50 i eithaf ei ymarferoldeb, a achredir gan CIMA, y corff cyfrifon rheoli byd-enwog.
I fynd i’r afael â’r pwnc pwysig hwn, cynhwysir amrywiol bynciau gan gynnwys defnyddio’r meddalwedd i’r eithaf, rheoli arian parod, y banc a chyllidebau ac adrodd cymharol. Ffurflenni TAW, gwerthiannau CE ac intrastat, teilwra adroddiadau a gosodiadau gan gynnwys e-bost a chostio prosiectau (jobsys).
Bydd dysgwyr yn meistroli ystod lawn o sgiliau sy’n ofynnol gan fusnesau i gyflawni swyddogaethau cyfrifyddu yn y modd mwyaf effeithiol, gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o feddalwedd cyfrifyddu Cyfrifon Proffesiynol Sage 50.
Cipolwg
Mynediad Ar-lein dros 12 mis
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae’r dystysgrif Sage a achredir gan CIMA yn darparu safon wedi’i meincnodi y gall cyflogwyr ymddiried ynddi, gan wneud y cwrs hyfforddi hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dilyn gyrfa mewn cyfrifyddu ac sy’n dymuno defnyddio meddalwedd Sage yn llawn a chael y budd mwyaf ohono.
Gofynion Mynediad
Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer dysgwyr sydd wedi dilyn cwrs ar-lein rhagarweiniol mewn meddalwedd cyfrifeg Sage ac sydd am ddysgu’r ystod lawn o sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fusnesau i gyflawni swyddogaethau cyfrifyddu a chael y budd mwyaf o feddalwedd Sage. Bydd dysgwyr yn deall sut mae Sage yn gweithio gydag egwyddorion cyfrifyddu ac yn cynyddu eu defnydd o’r meddalwedd mewn amgylchedd busnes.
Dilyniant
Gallai dysgwyr symud ymlaen i fodiwlau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB