Highfield Lefel 2 Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo (RQF) Ar Lein
Mae'r Coleg Rhithwir wedi ymuno â Highfield eLearning i gynnig ystod o gyrsiau Hylendid Bwyd y gellir eu hastudio ar-lein o'ch cartref, eich swyddfa neu unrhyw fan yn y byd sydd â wifi neu gysylltiad â'r rhyngrwyd! Mae hwn yn gwrs achrededig a bydd dysgwyr llwyddiannus yn derbyn cymhwyster RQF Highfield ar gwblhau am arholiad amlddewis. Cwblheir yr arholiad dan amodau arholiad ar -lein.
Mae yna nifer o opsiynau iaith, gan gynnwys Pwyleg a Chymraeg, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Mae'r modiwlau hyfforddiant a gynhwysir yn y cwrs hwn yn cwmpasu maes llafur allweddol cymwysterau Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd.
Mae'r modiwlau hyn yn cynnwys:
Cyflwyniad i ddiogelwch bwyd
Peryglon microbiolegol
Gwenwyn bwyd a sut i'w reoli
Peryglon halogiad a sut i'w rheoli
HACCP o gludo nwyddau i wasanaeth
Hylendid personol
Adeiladau a chyfarpar bwyd
Heintiau bwyd a sut i'w rheoli
Glanhau a diheintio
Gorfodi diogelwch bwyd
Bydd y rheiny sy'n cymryd y cwrs e-ddysgu hwn yn cael tua saith awr ddysgu dan gyfarwyddyd o hyfforddiant. Yr un yw'r cynnwys dysgu ar gyfer pob arholiad Lefel Dau, fodd bynnag mae'r opsiwn hwn yn cynnwys arholiad diogelwch bwyd sy'n canolbwyntio ar arlwyo.
Cipolwg
Hyd y Cwrs
7 Awr
Canlyniad y Cwrs
Tystysgrif ardystiedig gan Highfield
Asesu
Asesiad ar-lein
Geirda Dysgwr
"Mwynheais wneud y cwrs yn fawr iawn, roedd yn hawdd i'w ddilyn a rhoddodd i mi'r holl wybodaeth oedd ei hangen arnaf"
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB