Cwrs Ymwybyddiaeth Straen, Rheolaeth a Lles


Mae'r Coleg Rhithwir wedi ymuno â Chymdeithas Rheoli Straen Ryngwladol y DU (International Stress Management Association UK - ISMAUK) i gynnig y cwrs Ymwybyddiaeth Straen hwn a gydnabyddir yn fyd-eang y gellir ei astudio ar-lein o'ch cartref, eich swyddfa neu unrhyw fan yn y byd sydd â wifi neu gysylltiad â'r rhyngrwyd! 

Canfyddir bod y cwrs hwn yn drylwyr, wedi'i sefydlu'n dda ac wedi'i gynllunio'n ardderchog i ddarparu taith ddysgu resymegol a fydd yn ysgogi dysgwyr sydd eisiau sgiliau ymarferol mewn Rheoli Straen a chyflawni Lles a Gwydnwch. 

Datblygwch y gallu i sylwi ar, a rheoli straen, ynoch chi eich hun ac eraill gyda'r cwrs tra ryngweithiol hwn. Gall gormod o bwysau arwain at salwch, straen ac anhapusrwydd, felly mae cael dealltwriaeth dda o'r symptomau, yr achosion a'r technegau i'w rheoli yn bwysig i ni gyd. Mae'n fan cychwyn delfrydol ar gyfer pobl sy'n dymuno gwella eu bywydau eu hunain, yn ogystal â bod yn adnodd amhrisiadwy yn y gwaith ar gyfer pobl sy'n rheoli eraill.

Mae'r cwrs wedi'i ysgrifennu gan hyfforddwyr rheoli straen proffesiynol gyda dros 30 mlynedd o brofiad rhyngddynt, yn gweithio gyda chleientiaid y sector cyhoeddus a'r sector preifat ill dau. Mae'r cwrs hwn yn arbennig o ddeniadol i ddarpar gyflogwyr, gan fod ymwybyddiaeth o straen a sut i'w reoli yn y gweithle yn hanfodol bwysig. Mae'r cwrs yn Gwrs Ymwybyddiaeth Straen a gydnabyddir gan Gymdeithas Rheoli Straen Ryngwladol y DU (ISMAUK).

Drwy gymryd y cwrs Ymwybyddiaeth Straen achrededig gan ISMAuk hwn, dyfernir Credydau i chi tuag at Gwrs Lefel Sylfaen mewn Hyfforddiant Rheoli Straen. Gallwch ddod yn aelod Cyswllt o ISMAUK (www.isma.org.uk) ac ymuno â'r gymuned o weithwyr proffesiynol yn y maes hwn sy'n datblygu'n gyflym.

Pwyntiau Dysgu Allweddol


Mae'r cwrs hwn yn edrych yn fanwl ar y rhesymau pam y mae pobl yn dod o dan straen, y ffyrdd o adnabod symptomau straen, sut i reoli straen a sut i adeiladu gwydnwch mewnol ac osgoi straen yn y dyfodol. Caiff y cwrs rhyngweithiol hwn ei redeg gan hyfforddwyr proffesiynol hyfforddedig iawn ac mae'n fan cychwyn delfrydol ar gyfer unigolion, gweithwyr a rheolwyr.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar:

Ddeall straen ac adnabod y symptomau - Bydd y modiwlau hyn yn eich helpu i ddeall beth yw straen, i werthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng pwysau a straen, ac i ddysgu adnabod symptomau straen ynoch chi eich hun ac eraill.
Beth yw achosion straen? Dysgwch i nodi pa fathau o bersonoliaeth sy'n fwy tebygol o ddioddef straen, sut y gallwch chi a phobl eraill effeithio ar eich lefelau straen a sut i ymateb i, a delio â, digwyddiadau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth. Archwiliwch y ffactorau sy'n achosi straen yn y gweithle a dysgwch sut mae lles a pherfformiad yn gysylltiedig.
Datrysiadau er mwyn rheoli straen -Ewch ati i gael mynediad i'n fformiwla unigryw a dysgwch sut i symud o straen i les, a defnyddiwch ein Offeryn Ffordd o Fyw i hunanasesu cryfderau, gwendidau a meysydd i'w datblygu
Offer ar gyfer gwydnwch a lles parhaus - Darganfyddwch beth yw Sgiliau Bywyd a defnyddiwch ein Offeryn Sgiliau Bywyd i hunanasesu lefelau lles. Adolygwch yr hyn rydych wedi'i ddysgu trwy gydol y cwrs ac archwiliwch wydnwch parhaus yn wyneb straen.

Manteision Y Cwrs Hwn


Mae'r cwrs yn defnyddio hyfforddiant cam wrth gam ar-lein a gallwch symud ymlaen ar eich cyflymder eich hun, sy'n golygu y byddwch yn gallu deall a meistroli pob modiwl yn llawn cyn symud ymlaen i'r nesaf.

  • Dealltwriaeth gynyddol o beth yw straen a sut i ddelio ag ef
  • Hyfforddiant gan hyfforddwyr rheoli straen proffesiynol
  • Gwell lles i chi eich hun ac i bobl eraill o'ch cwmpas
  • Cymhwyster gwerthfawr a fydd yn creu argraff ar ddarpar gyflogwyr
  • Mae llai o straen yn golygu gallu canolbwyntio a chyflawni'n well yn y gwaith
  • Gweithio dan bwysau gyda mwy o lonyddwch
  • Dysgu ar eich cyflymder eich hun - does dim brys (na straen!)

Prynwch y cwrs hwn nawr a manteisiwch ar y buddion enfawr o fyw bywyd di-straen a hapus. Mae llai o straen yn y gwaith yn arwain at gynhyrchiant uwch a staff hapusach, felly bydd cyflogwyr yn arbennig o hapus gyda'r cwrs hwn.

Unedau Astudio


  • Beth yw straen?
  • Beth yw symptomau straen?
  • Beth yw achosion straen?
  • Dod o hyd i ddatrysiadau i reoli straen
  • Offer hanfodol ar gyfer lles a gwydnwch
  • Adolygu eich dysgu

Cipolwg

Hyd y Cwrs

10 Awr

Canlyniad y Cwrs

Credits towards a Foundation Level Course in Stress Management Training
Pris £16

Asesu

Ar-lein

Geirda Dysgwr

"Mwynheais wneud y cwrs yn fawr iawn, roedd yn hawdd i'w ddilyn a rhoddodd i mi'r holl wybodaeth oedd ei hangen arnaf"

Jane Thope, Gogledd Swydd Efrog

Cofrestru ar gyfer cwrs hwn


Cyrsiau Cysylltiedig


Enrolment slider

Cofrestru a Chyfweliadau Addysg Bellach llawn amser

Enrolment slider
Slide 1
Proses Apelio
Cyrsiau Galwedigaethol ar gyfer Haf 2021

previous arrow
next arrow

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB