Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn llofnodi addewid i newid sut rydyn ni i gyd yn meddwl ac yn ymddwyn ynghylch iechyd meddwl

Heddiw mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi llofnodi addewid cyflogwr gydag Amser i Newid Cymru; yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar stigma a gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Trwy lofnodi’r addewid, rydyn ni’n ymrwymo i newid y ffordd rydyn ni i gyd yn meddwl ac yn ymddwyn ynghylch iechyd meddwl.

Cynhaliwyd y seremoni lofnodi heddiw ar ein campws yn y Graig a bu cynrychiolwyr o’r coleg yn addo eu cefnogaeth i Amser i Newid Cymru, gyda chynllun gweithredu o weithgarwch fydd yn helpu torri ar y tawelwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Meddai Tom Snelgrove, Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr: “Wrth i ni ddod i ddiwedd yr hyn sydd wedi bod yn dymor traddodiadol cyntaf i ni ers 2019, fel coleg rydyn ni’n gwneud ymrwymiad pendant i gefnogi iechyd meddwl a lles ein holl gymunedau, trwy lofnodi’r addewid i ddod yn goleg ‘Amser i Newid’. Rydyn ni wedi deall bod y pandemig wedi dod â llawer o wahanol heriau i bob un o’n staff a’n dysgwyr.

“Mae’r pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi datblygu llu o weithgareddau ar gyfer y diwrnod lansio ynghyd â phecyn cefnogaeth barhaus i staff a dysgwyr ill dau a fydd yn cefnogi’r ymrwymiad hwn, a gaiff eu lansio gennym ni yn ymrwymo i fod yn Goleg Amser i Newid. Mae’r addewid Amser i Newid Cymru yn dangos ein datganiad cyhoeddus y byddwn fel sefydliad yn camu ymlaen a mynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu ac rydym wedi ymrwymo i weithredu er mwyn cefnogi ein cymuned ehangach.” 

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ymuno â’r mudiad cynyddol o dros 200 o sefydliadau sydd wedi llofnodi addewid Amser i Newid Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Banc Lloyds, cwmni yswiriant Admiral, Trafnidiaeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Meddai Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Amser i Newid Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod   Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi gwneud addewid i gymryd camau positif i helpu mynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu yn eu sefydliad. Rydyn ni wedi gweithio gyda nhw i ddatblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr i fod wrth wraidd eu haddewid fel bod camau ymarferol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â stigma ar bob lefel yn y sefydliad. 

“Problemau iechyd meddwl yw prif achos absenoldeb oherwydd salwch yn y gweithle, gydag 1 i 6 gweithiwr yn profi symptomau o iselder, straen neu bryder. Amcangyfrifir bod cost problemau iechyd meddwl yng Nghymru yn £7.2 biliwn y flwyddyn o ran colli allgynnyrch, biliau gofal iechyd a budd-daliadau cymdeithasol; a dyna pam mae yna achos moesol cryf a hefyd achos busnes dros gamu ymlaen a chreu gweithleoedd sy’n iachach yn feddyliol.”

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB