Mae’r rhaglen sylfaen mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu yn rhoi cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i datblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu sy’n bwriadu gweithio, yn y sectorau hyn.
Bydd y cymhwyster hwn, a anelir at ddysgwyr yn y sector addysg bellach, yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio ystod o gyrsiau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu lefel dau neu dri eraill sy’n berthnasol i’w maes diddordeb o ran crefft.
Mae'r rhaglen yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cael gwaith a/neu ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Dewisiadau Opsiwn
Cymhwyster Sylfaen mewn Gweithio gyda Brics, Blociau a Cherrig a Plastro.
Cymhwyster Sylfaen mewn Galwedigaethau Pren a Thoi.
Cipolwg
Llawn Amser
18 Mis
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol. Datblygwyd y rhaglen yn benodol i’w chyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi modern. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern. Hefyd, fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr yn cwblhau sgiliau hanfodol neu sylfaenol. Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu'r iaith Gymraeg.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol sy'n cwmpasu'r canlynol yn gyfannol:
Yn ychwanegol at yr unedau hyn, bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned grefft i dreulio amser ychwanegol yn dysgu, a fydd yn cynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin. Mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o’r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u datblygiad eu hunain. Gweler hefyd yr adran ar yr opsiynau sydd ar gael.
Mae’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:
Dealltwriaeth o'r adeiladau a'r strwythurau sy'n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser.
Dealltwriaeth o'r crefftau, y rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a'r egwyddorion a'r prosesau cysylltiedig ar bob cam.
Dealltwriaeth o gynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Gwybodaeth am dechnolegau sy'n dod i'r amlwg yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
Sgiliau cyflogadwyedd a'u dealltwriaeth o sut mae'r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
Gwybodaeth am egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy'n amddiffyn iechyd, diogelwch, lles a'r amgylchedd a’r gallu i’w cymhwyso.
Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth ragarweiniol a sgiliau mewn dau faes crefft. Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i symud ymlaen i astudiaeth bellach, megis:
Dilyniant mewn Adeiladu (Lefel 2) - City & Guilds
Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) - EAL
Prentisiaeth mewn Adeiladu (Lefel 3) (maes crefft) - City & Guilds
I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:
Un prawf aml-ddewis ar sgrin, wedi’i osod a’i farcio’n allanol
Un prosiect ymarferol wedi'i osod yn allanol, wedi'i farcio'n fewnol yn cwmpasu dau faes crefft
Un drafodaeth dan arweiniad, wedi’i gosod yn allanol, wedi’i marcio’n fewnol
Gofynion y Rhaglen
Crefftau Adeiladu
TGAU graddau A* i D mewn mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith neu
Lefel 1 / 2 CBAC mewn adeiladu’r amgylchedd adeiledig neu
gymhwyster lefel un sy'n gysylltiedig ag adeiladu
Mae croeso i ddysgwyr hŷn wneud cais ac mae’n amodol ar gyfweliad
Gwaith Plymwr, Gwresogi, Awyru a Systemau a Chyfarpar Electrodechnegol
TGAU graddau A*-D mewn Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af), Mathemateg ac un arall yn ddelfrydol yn ymwneud â Gwyddoniaeth neu
Lefel 1 / 2 CBAC mewn Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig neu
Gymhwyster Lefel 1 sy'n gysylltiedig ag Adeiladu neu
Ddysgwyr hŷn yn amodol ar gyfweliad
Noder: Yn ogystal, bydd angen i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.
Costau Ychwanegol
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy'n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar. Yn ogystal mae angen i fyfyrwyr brynu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB