Fel arfer defnyddir breciau aer mewn Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs) oherwydd eu heffeithiolrwydd a’u dibynadwyedd.
Breciau yw'r system ddiogelwch bwysicaf mewn cerbyd ac mae hyn yn fwy perthnasol byth i Gerbydau Nwyddau Trwm. Defnyddir breciau aer ar gerbydau trwm am nifer o resymau. Yn bwysicaf oll, defnyddir breciau aer ar gerbydau trwm oherwydd profwyd eu bod yn gallu stopio’r cerbydau hyn yn ddiogel.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi gwell gwybodaeth gyffredinol i ddysgwyr, gan gwmpasu cydrannau a chanfod diffygion sylfaenol. Bydd dysgwyr yn cael yr hyfforddiant diweddaraf wrth weithio ar gerbydau LGV a PCV i wella eu dealltwriaeth o systemau brecio modern a diagnosteg.
Asesir y cwrs hwn trwy arsylwi gyda dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Coleg Sir Gâr ar ôl ei gwblhau. Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, gall dysgwyr ddisgrifio gwneuthuriad a dull gweithredu systemau breciau aer cywasgedig mewn tryciau, bysiau a threlars. Mae’n rhoi'r wybodaeth a'r hyder i ddysgwyr gyflawni'r gwaith o brofi ac addasu systemau breciau aer cywasgedig a chyfarpar yn ogystal â'r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio dilynol.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer mecanyddion gweithdy, technegwyr gwasanaethu neu beirianwyr sy’n edrych am yr hyfforddiant diweddaraf ar gyfer gweithio ar gerbydau LGV a PCV i wella eu dealltwriaeth o systemau brecio modern a diagnosteg.
Gallai'r cwrs hwn roi gwybodaeth gefndirol ragorol i’r dysgwr fel ar gyfer datblygu ei sgiliau ymhellach mewn meysydd fel archwilio diogelwch neu ddiagnosteg uwch.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB