Profwr MOT

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 4.5 Ddiwrnod

  • Campws Pibwrlwyd

Rhaglen archwilio cerbydau orfodol yn y Deyrnas Unedig yw MOT (Ministry of Transport) sy’n sicrhau bod cerbydau’n bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.

Mae perchen ar gerbyd yn golygu ei bod yn ofynnol i gael prawf MOT bob blwyddyn. Mae hyn yn berthnasol i lawer o gerbydau gan gynnwys beiciau modur, ceir, cerbydau nwyddau trwm i enwi ond ychydig. Mae’r prawf MOT hwn yn helpu sicrhau bod cerbydau’n addas i fod ar y ffordd ac yn ddiogel i’w gyrru.

I wneud yn siŵr bod dysgwyr yn gwbl barod i gyflawni profion MOT caiff amrywiaeth o bynciau eu cwmpasu yn y cwrs hwn. Mae’r rhain yn cynnwys deddfau a rheoliadau perthnasol, offer ar gyfer y dasg, pryd gallwch chi wrthod dechrau prawf, defnydd o’r llawlyfr profi, safonau a gweithdrefnau. Yn ogystal â, dogfennaeth a diogelwch, defnyddio’r gwasanaeth profi MOT ar-lein, archwilio arferol a dosbarthiadau o gerbydau.

Mae’r cwrs cynhwysfawr hwn yn galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth, sgil a hyder i gyflawni profion MOT. Cyflwynir gan arbenigwyr modurol tra hyfforddedig a phrofiadol gan roi’r profiad dysgu gorau posibl i ddysgwyr.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Cynllunnir y cwrs hwn ar gyfer technegwyr cerbydau modur sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd ac sydd am gymhwyso mewn profi MOT.

Gofynion Mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn mae rhaid bod eisoes gan ddysgwyr gymhwyster cerbydau modur lefel tri neu gyfwerth a thrwydded yrru lawn a chyfredol y DU ar gyfer y dosbarth cerbydau maen nhw’n dymuno profi. Hefyd mae rhaid bod gan ddysgwyr o leiaf bedair blynedd fel technegydd cerbydau modur medrus cyflogedig llawn amser. Yn cyflawni gwaith gwasanaethu ac atgyweirio ar y mathau o gerbydau maen nhw am brofi.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn gymwys fel profwyr MOT, gan gyflawni’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol. Unwaith y dyfernir tystysgrif gwblhau mae’r dysgwr yn gallu gwneud cais i’r  DVSA i’w awdurdodi fel profwr MOT.

Costau Ychwanegol

£750

Mae’n bosibl bod cyllid ReAct ar gael i unigolion cymwys ar gyfer ariannu’r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach ac i wirio cymhwyster.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB