Rhaglen archwilio cerbydau orfodol yn y Deyrnas Unedig yw MOT (Ministry of Transport) sy’n sicrhau bod cerbydau’n bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.
Mae hyfforddiant ac asesiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) MOT a gyflwynir gan y DVSA yn ofyniad blynyddol y mae'n rhaid i bob profwr MOT ei gyflawni er mwyn parhau i gynnal profion MOT ar gerbydau.
Er mwyn cadw eu statws fel profwr MOT rhaid i ddysgwyr gwblhau'r hyfforddiant gorfodol hwn. I wneud hyn, mae'r pynciau a gwmpesir yn cynnwys gweithdrefnau profi breciau, am ba mor hir y dylech gadw cofnodion hyfforddiant DPP, gweithdrefnau profi, jacio cerbydau, defnyddio offer profi lampau blaen, aliniad olwynion a phrofion ffyrdd.
Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn yn galluogi dysgwyr i gwblhau eu hyfforddiant blynyddol a sefyll yr asesiad blynyddol i gyd mewn un diwrnod. Cyflwynir gan arbenigwyr modurol tra hyfforddedig a phrofiadol gan roi’r profiad dysgu gorau posibl i ddysgwyr.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer profwyr MOT presennol sy’n dymuno cydymffurfio â gofynion blynyddol y DVSA er mwyn parhau i gynnal profion MOT.
Ar ôl cwblhau'r cwrs DPP MOT hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn cael tystysgrif gwblhau a gydnabyddir gan y DVSA. Mae hyn yn dangos bod y dysgwr wedi cwblhau'r hyfforddiant blynyddol gorfodol ac wedi llwyddo yn yr asesiad terfynol.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB