Asesiad Achrededig Technegwr Cerbydau (VTAA)

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • Hanner Diwrnod

  • Campws Pibwrlwyd

Rhaglen archwilio cerbydau orfodol yn y Deyrnas Unedig yw MOT (Ministry of Transport) sy’n sicrhau bod cerbydau’n bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.

Mae’r cymhwyster Asesiad Achrededig Technegydd Cerbydau (VTAA) yn cydnabod gwybodaeth a sgiliau sy’n gyfwerth â lefel tri ar gyfer technegwyr nad oes ganddynt gymhwyster ffurfiol. Mae’r achrediad yn galluogi technegwyr cerbydau modur sydd wedi gweithio yn eu rolau am bedair blynedd neu fwy i brofi eu galluoedd ar lefel tri.

Mae'r cwrs hwn yn ddewis amgen i’r cwrs Technegydd Archwilio Cerbydau Ysgafn IMI ac mae ar gyfer technegwyr sy'n ymwneud ag archwilio, cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn.  Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd dysgwyr yn gallu calibro cyfarpar prawf allyriadau cyn profi cerbyd, archwilio cerbyd yn gywir, canfod diffygion a chywiro gofynion atgyweirio. Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth am y diagram gwifro priodol sydd ei angen ar gyfer systemau trydanol y cerbyd sy'n cael ei brofi a bydd ganddynt y sgiliau i’w gymhwyso.

Mae hwn yn gwrs ardystiedig a gydnabyddir gan DVSA fel achrediad cyn-mynediad i ddod yn brofwr MOT.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae'r cwrs VTAA ar gyfer unigolion sy'n fedrus yn y fasnach foduron ond nid oes ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol.  Mae'r cwrs hwn i helpu technegwyr heb gymhwyster lefel tri i ddod yn gymwys a symud ymlaen i'r cwrs profwyr MOT.

Gofynion Mynediad

Rhaid bod unigolion yn gweithio ar safon lefel tri ac mae angen o leiaf 4 blynedd o brofiad yn gweithio mewn garej a dealltwriaeth sylfaenol o Brofion MOT.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i'r cwrs Profwr MOT.

Costau Ychwanegol

£450

Mae’n bosibl bod cyllid ReAct ar gael i unigolion cymwys ar gyfer ariannu’r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach ac i wirio cymhwyster.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB