Mae dod yn fecanydd yn gallu bod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i’r rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio gyda cherbydau ac sy’n mwynhau datrys problemau.
Mae'r rhaglen lawn amser hon yn darparu mynediad-llwybr dysgu i gynnal a chadw cerbydau ysgafn a rolau eraill sydd ar gael yn y diwydiant gwerthu ceir.
Mae'r cyrsiau’n defnyddio cymwysterau difyr ac ysgogol sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth hefyd.
Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich helpu i ennill cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur cerbydau ysgafn. Ymgymerir â chyflwyno'r rhaglen mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi'u cyfarparu â'r offer a'r cyfarpar diweddaraf a ddefnyddir yn helaeth yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Yn ystod y rhaglen byddwch yn dysgu i gynnal a chadw ac atgyweirio gwahanol fathau o gerbydau, fel ceir a faniau, ffitio ac ailosod rhannau a theiars a gweithio ar gerbydau hybrid yn ddiogel.
Bydd y rhaglen yn rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanydd cerbydau modern. Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth dysgwyr.
Neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda'ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.